Rhybudd: Tywydd garw ar y ffordd gall achosi llifogdd
- Cyhoeddwyd
Mae wedi rhybuddio am beryglon llifogydd i ogledd Cymru wrth iddynt baratoi am stormydd ar ddydd Iau a dydd Gwener.
Dywed y corff y gall llanw uchel a gwyntoedd cryfion greu tonnau enfawr ac achosi i'r m么r ymchwyddo ac arwain at lifogydd ar dir arfordirol.
Yn 么l y rhagolygon tywydd gellir disgwyl gwyntoedd cryfion ar hyd arfordir gogledd Cymru yn enwedig rhwng Ynys M么n a Lerpwl.
Mi fydd gweithwyr argyfwng Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu lleoli mewn ardaloedd pwysig ar draws yr ardal yn barod i atgyweirio a sicrhau bod amddiffynfeydd y m么r yn dal.
Yn ogystal byddant yn sicrhau bod gridiau draenio yn glir er mwyn lleihau'r risg o lifogydd i bobl a'u cartrefi.
Osgoi glan m么r
Meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn rhybuddio pobl i osgoi ymweld 芒'r glan m么r rhag ofn iddynt gael eu hysgubo i ffwrdd gan donnau enfawr neu gael eu taro gan ddarnau o weddillion a chwythir gan y gwynt.
"Gall llifogydd fod yn ofnadwy o beryglus, a ni ddylai pobl geisio cerdded neu yrru trwyddo os nad ydynt yn cael eu cyfarwyddo i wneud gan y gwasanaethau argyfwng."
Mi fydd gwybodaeth ar gael wrth ffonio'r llinell lifogydd ar 0845 988 118 neu ymweld 芒'u gwefan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2013