Tywydd yn effeithio ar gyflenwad trydan
- Cyhoeddwyd
Mae'r tywydd garw wedi effeithio ar gyflenwad trydan 5,000 o dai am gyfnod.
Dywedodd Western Power Distribution fod 5,000 o dai heb gyflenwad trydan yn y gorllewin, Abertawe a Chaerdydd.
Roedd 200 o dai heb drydan ym Mhontarddulais ger Abertawe.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yng Nghymru ar gyfer prynhawn a nos Sadwrn.
Ystyr rhybudd melyn yw "byddwch yn barod".
Difrodi
Mae'r rhybudd mewn grym tan 9 nos Sadwrn ac yn cynnwys ardaloedd cynghorau Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir G芒r, Sir Fynwy, a Thorfaen.
Cafodd to prif fynedfa Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ei ddifrodi a chafodd person f芒n anafiadau.
Erbyn hyn, mae'r fynedfa wedi ailagor.
Dywedodd y gwasanaeth t芒n fod to garej wedi taro'r t欧 drws nesa' yn Beddau ger Pontypridd.
Mae Heddlu'r De wedi dweud bod "adroddiadau bod 13 o goed wedi cwympo o fewn awr".
80 mya
Yn 么l Heddlu Dyfed-Powys, roedd "llawer o adroddiadau am goed yn cwympo a difrod oherwydd y gwyntoedd cryf".
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod gwynt ar gyflymder o 80mya yn Aberdaugleddau.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud bod "gwyntoedd cryf ar yr arfordir o Ben Ll欧n i F么r Hafren".
Roedd pall ar y cyflenwad trydan yn ardal Cricieth am gyfnod.
Dylai'r cyhoedd fod yn ymwybodol y gallai'r gwyntoedd cryfion amharu ar deithwyr.
Llifogydd
Yn y cyfamser, mae rhybuddion llifogydd mewn grym yn yr ardaloedd canlynol: Bae Penrhyn, Llanddulas a Bae Cinmel yng Nghonwy, Y Bermo yng Ngwynedd, Borth, Bae Clarach ac Aberystwyth yng Ngheredigion, Niwgwl a Dale yn Sir Benfro, Penclawdd yn Sir Abertawe, Y Drenewydd a Phorthcawl yn Sir Pen-y-bont.
Mae cyfyngiadau cyflymder ychwanegol mewn grym o ganlyniad i'r gwyntoedd, 30 m.y.a. ar Bont Britannia sy'n cysylltu Ynys M么n 芒'r tir mawr, a chyfyngiadau ar hen bont Afon Hafren (M48).
Yn Sir Benfro, mae Pont Cleddau ynghau i gerbydau uchel.
Mae coelcerth gymunedol yn Y Bermo wedi ei gohirio am 24 awr oherwydd y rhagolygon ac mae un yn Nolgellau wedi ei hailldrefnu.