Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Silk: Datganiad pellach am bwerau i Gymru
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mwy o fanylion am y pecyn o bwerau ariannol fydd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Cafodd y cyhoeddiad gwreiddiol ei wneud gan David Cameron a Nick Clegg yng Nghaerdydd yn gynharach yn y mis.
Mae'n golygu y bydd rhai pwerau trethu'n dod i Fae Caerdydd
Gallai'r pwerau weld Llywodraeth Cymru'n rheoli 拢3 biliwn o gyllid treth, gan gynnwys trethi busnes, y grym i greu rhai trethi newydd a pheth pwerau benthyg.
Fe gafodd 30 o 31 o ar ddatganoli pwerau eu derbyn gan Lywodraeth y DU yn llwyr neu'n rhannol, gan arwain at ddatganoli nifer o bwerau ariannol.
Fodd bynnag ni fydd un o'r prif argymhellion - sef y dylai Cymru gael yr hawl i amrywio treth incwm ar wahan ar gyfer y graddfeydd gwahanol - yn cael ei dderbyn.
Os fydd refferendwm yn rhoi'r hawl i Gymru amrywio treth incwm, fe fydd yn gorfod gwneud hynny yn yr un modd a'r Alban, sef codi neu ostwng bob band o dreth incwm ar yr un pryd.
Ymhlith y pwerau newydd a gyhoeddwyd gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, ac Ysgrifennydd Cymru David Jones fore Llun mae:-
- Datganoli trethi busnes sydd ddim yn rhai mewnol fel y gall Llywodraeth Cymru elwa'n fwy uniongyrchol o dwf yng Nghymru;
- Y gallu i greu trethi newydd gyda chytundeb Llywodraeth y DU;
- Yr arfau i reoli'r pwerau trethu newydd;
- Creu cronfa arian wrth gefn y gall Llywodraeth Cymru ychwanegu ati pan mae refeniw yn uchel, a'i defnyddio pan fydd yn isel neu'n llai na'r disgwyl.
'Arf grymus'
Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Mr Alexander: "Rwyf wrth fy modd bod fy ngwaith gyda Jane Hutt, gweinidog cyllid Cymru, a chydweithio agos rhwng y ddwy lywodraeth wedi cyflawni'r canlyniad gwych yma i Gymru.
"Fe fydd y pecyn o bwerau ariannol yr ydym wedi cyhoeddi heddiw yn arf grymus fydd yn dod 芒 mwy o atebolrwydd ariannol a thryloywder i Lywodraeth Cymru."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru David Jones:
"Drwy'r pecyn o bwerau yr ydym yn ei gyhoeddi, rydym yn rhoi'r arfau i Lywodraeth Cymru i wneud y buddsoddiadau iawn yng Nghymru.
"Mae buddsoddi mewn isadeiledd yn hanfodol bwysig er mwyn creu twf yn y tymor hir ar draws y DU.
"Mae'r pecyn yma yn galluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi'n syth yn y materion isadeiledd y mae'n arwain arnynt, megis y rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd, yr M4 a ffordd yr A55.
"Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru nawr yw cymryd y cyfle 'unwaith mewn cenhedlaeth' yma a defnyddio'r cyfle i sicrhau twf a llewyrch y mae Cymru angen."
'Cam pwysig'
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, fod y cyhoeddiad ddydd Llun yn "gam pwysig ymlaen i Gymru".
"Ar bob cyfle rydym wedi bod yn pwyso, a byddwn yn parhau i bwyso, i ddod 芒 mwy o atebolrwydd a chyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru. Rydym eisiau i Gymru gael rhagor o bwerau i hybu datblygiad economaidd y wlad, a chreu swyddi a chyfoeth i'n pobl."
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt:
"Dros yr wythnosau nesa', byddwn angen cadarnhau'r manylion ar sut y bydd y pecyn llawn yn cael ei gyflwyno, ac rwy'n edrych 'mlaen at weithio ar hyn gyda'r Prif Ysgrifennydd.
"Nawr bod pethau'n symud ymlaen, rydym angen cadw'r momentwm. Y flaenoriaeth nawr yw troi'r gwelliannau yn gyfraith, fel ein bod yn gallu defnyddio'r pwerau newydd i hybu'r economi yng Nghymru."
Croeso gofalus
Daeth croeso gofalus hefyd gan gadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli, Paul Silk. Dywedodd:
"Fel Comisiwn rydym yn falch bod mwyafrif llethol yr argymhellion a wnaethom yn ein hadroddiad cyntaf wedi cael eu derbyn gan lywodraeth y DU.
"Yn dilyn cyhoeddiad y prif weinidog a'r dirprwy brif weinidog yn gynharach yn y mis ar dreth incwm, benthyca a threth stamp a thirlenwi, mae datganoli llawn o drethi busnes a'r gallu i greu trethi newydd yn mynd i fod yn arfau pwysig i Lywodraeth Cymru.
"Yn ein hadroddiad cyntaf fe wnaethon ni gyflwyno dadl gref dros ganiat谩u i Lywodraeth Cymru osod graddfa ar gyfer bob band unigol o dreth incwm ar wah芒n.
"Nodwn y bydd datganoli treth incwm yn mynd i ddilyn y model yn yr Alban, ac edrychwn ymlaen at y drafodaeth a fydd yn dilyn ar hynny.
"Mae ymateb heddiw yn gam pwysig ymlaen. Bydd gweithredu ein hargymhellion yn dod 芒 chyfrifoldeb a grym ac rydym yn credu bod angen hynny ar gyfer llywodraeth ddatganoledig i Gymru."
Mae'r Comisiwn ar hyn o bryd yn gweithio ar ail ran ei faes llafur, sef adolygu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol sydd ddim yn ariannol, ac mae disgwyl iddo gyhoeddi adroddiad pellach ym Mawrth 2014.