91热爆

'Dim refferendwm cyn diwygio'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Carwyn Jones am frysio i gynnal refferendwm

Ni ddylai refferendwm ar ddatganoli treth incwm ddigwydd tan i'r Trysorlys newid y modd y mae'n ariannu cenhedloedd a rhanbarthau'r DU, yn 么l y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Dywedodd y dylid diwygio fformiwla Barnett - sy'n pennu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru'n ei dderbyn gan y Trysorlys - yn gyntaf.

Roedd Mr Jones yn ymateb i bwerau cyllido newydd i Fae Caerdydd a gyhoeddwyd gan David Cameron a Nick Clegg ddydd Gwener.

Dywedodd Mr Cameron ei fod am sicrhau "Cymru gref y tu fewn i Deyrnas Unedig gref".

Amseru'r bleidlais

Yn y Senedd ddydd Gwener, dywedodd Mr Cameron a Mr Clegg y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn cael pwerau benthyg.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am hynny fel y gallai godi arian i dalu am waith ar draffordd yr M4 ger Casnewydd.

Bydd y llywodraeth yng Nghaerdydd hefyd yn cael rheolaeth dros dreth stamp a threth tirlenwi.

Gallai gael pwerau i amrywio rhan o'r dreth incwm pe bai yna gefnogaeth i hynny mewn refferendwm. Bydd amseru'r refferendwm yn cael ei benderfynu gan Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Ond dywedodd Mr Jones na fyddai hynny'n digwydd cyn etholiad y Cynulliad yn 2016, a bod rhaid diwygio fformiwla Barnett "cyn i hynny hyd yn oed gael ei ystyried".

'Neges bwysig'

Ychwanegodd Mr Jones: "Mae hyn yn dangos ei bod yn bosibl i ddatganoli fod yn hyblyg, ac rwy'n credu bod hynny'n neges bwysig ar draws y DU i gyd nid dim ond Cymru.

"Rydym yn croesawu'r ffaith y bydd mecanwaith yn ei le i ddatganoli treth incwm yn y dyfodol.

"Ond fel llywodraeth ni fyddwn yn ceisio datganoli treth incwm yn llwyr - yn sicr nid ar hyn o bryd.

"Y rheswm am hynny yw ein bod yn credu na ddylai datganoli treth incwm ddigwydd tan y bydd fformiwla Barnett yn cael ei ddiwygio.

"Rhaid i seiliau ariannu Cymru fod yn gadarn cyn y gallwn ystyried a fyddai datganoli treth incwm yn briodol ac yn iawn i bobl Cymru."

Ychwanegodd ei fod yn siomedig na fydd toll teithwyr awyr yn cael ei datganoli - rhywbeth yr oedd Comisiwn Silk yn ei argymell wrth ystyried sut y dylid ariannu Cymru.