91热爆

Pwerau trethu'n 'codi ofn' ar Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
David Cameron a Nick CleggFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddwyd y pwerau newydd gan David Cameron a Nick Clegg ddydd Gwener

Mae'r prif weinidog "ofn" y cyfrifoldeb o gael pwerau dros dreth incwm, yn 么l arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams.

Cyhoeddodd llywodraeth y DU ddydd Gwener y bydd rhai pwerau trethu'n cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru ac y byddai refferendwm am bwerau dros dreth incwm.

Dywedodd Carwyn Jones na fydd yn cynnal y refferendwm tan i'r Trysorlys ddiwygio'r modd y mae Cymru'n cael ei hariannu o San Steffan.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Jones fod honiadau Ms Williams yn "chwerthinllyd".

'Canlyniadau polis茂au'

Roedd Ms Williams yn siarad ar raglen y Sunday Politics Wales ar y 91热爆 gan ddweud ei bod yn credu ei fod yn "anhygoel" nad oedd Mr Jones am dderbyn mwy o gyfrifoldeb dros amrywio treth incwm.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod y prif weinidog yn bryderus go iawn am orfod cymryd mwy o gyfrifoldeb dros ganlyniadau ei bolis茂au yma yng Nghaerdydd.

"Ar hyn o bryd does dim ots os yw ei bolis茂au'n llwyddo neu beidio o ran cyllid. Mae'n derbyn yr arian o Lundain.

"Pe bai'n gyfrifol am godi peth o'r arian ei hun fe fyddai'n llawer mwy atebol pan nad yw pethau'n mynd yn dda, ac rwy'n credu ei fod ofn hynny."

'Ail-sgrifennu hanes'

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y prif weinidog: "Mae'r honiad yma yn chwerthinllyd.

"Y prif weinidog arweiniodd yr ymgyrch i gael pleidlais 'IE' yn y refferendwm dros bwerau ychwanegol ym Mawrth 2011.

"Y prif weinidog sydd wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn galw ar lywodraeth y DU i beidio oedi a gweithredu argymhellion Comisiwn Silk yn llawn.

"Naill ai doedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ddim yn gwrando, neu maen nhw'n ceisio ail-sgrifennu hanes."

Yn dilyn cyhoeddiad David Cameron a Nick Clegg yn y Senedd ddydd Gwener, dywedodd Carwyn Jones ei fod am weld diwygio fformiwla Barnett - sy'n rheoli faint o arian y mae'r Cynulliad yn ei dderbyn o San Steffan - cyn y byddai'n galw am fwy o bwerau dros dreth incwm trwy gynnal refferendwm.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru hefyd wedi beirniadu ei safbwynt.