Cyhoeddi prosiectau gwerth £600m
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion ei chynlluniau i wario dros £600 miliwn ar brosiectau mawr er mwyn hybu'r economi.
Daw hyn yn sgil cyhoeddiad ddydd Mawrth am gyllideb ddrafft Cymru ar gyfer 2014-15.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ddydd Mercher y bydd cyllid o £617.5 miliwn ar gael ar gyfer tai, trafnidiaeth a thwf busnes i gefnogi economi Cymru.
Yn ôl y gweinidog bydd y buddsoddiad yn help i greu neu gynnal 11,000 o swyddi ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Trafnidiaeth
Mae buddsoddiadau mewn rhwydweithiau trafnidiaeth ledled Cymru yn cynnwys £62 miliwn ar gyfer cam cyntaf cynllun newydd i greu system metro de-ddwyrain Cymru drwy gysylltiadau bysiau a rheilffyrdd gwell.
Bydd y buddsoddiadau trafnidiaeth hefyd yn cynnwys: £40 miliwn ar gyfer deuoli'r A465 rhwng Gilwern a Brynmawr, £40 miliwn ar gyfer gwelliannau i Dwnneli Brynglas ar yr M4 ac £17 miliwn ar gyfer gwelliannau i'r A55 yn y gogledd.
O ran gwariant ar dai, cyhoeddodd Ms Hutt y bydd yna fuddsoddiad o £170 miliwn.
Bydd hyn yn cynnwys £140 miliwn rhwng 2014/15 a 2015/16 ar gyfer Cymorth Prynu Cymru - cynllun rhannu ecwiti newydd i Gymru i helpu pobl i brynu cartrefi newydd.
Mae'r cynllun hwn yn debyg i'r un sy'n bodoli eisoes yn Lloegr, ond mae'r uchafswm o ran pris yr eiddo all fod yn rhan o'r cynllun yn £300,000, sy'n hanner yr uchafswm ar gyfer y cynllun yn Lloegr.
Dywedodd Ms Hutt: "Ers 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud toriadau sylweddol i'n cyllideb gyfalaf. Erbyn 2015-16 bydd 33% yn is mewn termau real nag yn 2009-10.
"Mae'r amodau economaidd anodd yn parhau, ond rwy'n benderfynol o ddefnyddio'r holl arian sydd ar gael i fuddsoddi mewn seilwaith a hybu twf economaidd yn yr hirdymor."
Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys:
£38m ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau iechyd ledled Cymru - gan gynnwys y camau olaf yn natblygiad Ysbyty Plant Cymru Arch Noa.
£6m ar gyfer Dechrau'n Deg - i sicrhau bod 3,000 yn fwy o blant a'u teuluoedd yn elwa o'r cynllun
£70m ar gyfer ARBED ECO - cynllun Llywodraeth Cymru i wneud cartrefi Cymru yn defnyddio llai o ynni, gan ganolbwyntio ar y rheini sydd mewn tlodi tanwydd.
£20m i gefnogi rhaglen o welliannau i amddiffynfeydd rhag llifogydd ac erydu arfordirol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013