Cyhoeddi cytundeb £100m ar y gyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi taro bargen gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y gyllideb ddrafft.
Gwerth y fargen yw oddeutu £100m, gyda £50m o hynny yn mynd tuag at gronfa er mwyn trin cleifion yn y gymuned yn hytrach na'r ysbyty.
Yn ogystal bydd £35m yn mynd tuag at Grant Amddifadedd Disgyblion - un o bolisiau allweddol y Democratiaid Rhyddfrydol.
Bydd y ddwy blaid yn ymatal rhag pleidleisio a bydd hynny'n galluogi'r llywodraeth i basio'r gyllideb.
Iechyd ac addysg
Roedd Llafur angen dod i gytundeb gyda phlaid arall er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn cael ei chymeradwyo, gan nad oes ganddyn nhw fwyafrif yn y Cynulliad.
Bydd manylion llawn y gyllideb yn cael eu cyhoeddi brynhawn Mawrth gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt.
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones, Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi , sy'n nodi manylion y fargen.
O'r £100m yn y cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, bydd £65m yn cael ei wario ar wahanol brosiectau iechyd.
Heblaw am y £50m ohono sy'n mynd i gronfa er mwyn trin pobl yn y gymuned, bydd £5.5m ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl sy'n ceisio atal problemau cyn iddyn nhw godi.
Bydd £9.5m arall yn cael ei wario ar driniaeth robotig ar gyfer pobl sy'n dioddef o ganser y prostad.
Bydd y £35m ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion, yn golygu y bydd yn mwy na dyblu o £450 y disgybl i £918.
'Y fargen orau bosib'
Wrth gyhoeddi manylion y cytundeb mewn cynhadledd newyddion ym Mae Caerdydd, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y byddai'r cytundeb yn gwneud gwahaniaeth i bobl "nawr, heddiw".
"Rwy'n falch o'r hyn mae Plaid Cymru wedi llwyddo i gyflawni drwy weithio gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.
"Wrth gydweithio rydym wedi llwyddo i sicrhau'r fargen orau bosib ar gyfer pobl Cymru."
'Dechrau gwell mewn bywyd'
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams ei bod hi'n falch o allu sicrhau arian ar gyfer un o bolisiau allweddol ei phlaid.
"Roedd rhoi dechrau gwell mewn bywyd i ddisgyblion tlotach yn o addewidion allweddol y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn ein maniffesto yn 2011
"Mae'n bolisi rydym wedi gwthio amdano bob tro y mae cyfle wedi codi.
"Rydym wedi mwy na dyblu cyfanswm yr arian sy'n mynd at ddisgyblion difreintiedig sy'n golygu bydd y gyllideb addysg yn elwa o £35m ychwanegol."