91热爆

Cynllun i ddangos pwysigrwydd rhifedd

  • Cyhoeddwyd
Rhifedd

Bydd cynllun i annog cyflogwyr yng Nghymru i weithio gydag ysgolion a myfyrwyr i ddangos pa mor ddefnyddiol yw rhifedd ym myd gwaith yn cael ei lansio'n ddiweddarach gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis.

Nod y rhaglen Ymgysylltu 芒 Chyflogwyr ar Rifedd yw sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn deall pwysigrwydd rhifedd ym myd gwaith, a bod sgiliau yn y maes yn eu gwneud yn fwy cyflogadwy.

Dywedodd Huw Lewis: "Weithiau mae'n anodd i ddysgwr yn yr ystafell ddosbarth weld perthnasedd yr hyn y maen nhw'n ei ddysgu i'r byd go iawn. Dyna pam mae'r cynllun newydd hwn mor bwysig ac arloesol.

"Trwy gael cyflogwyr i weithio gyda phobl ifanc ac athrawon yn y dosbarth, yn dangos sut mae mathemateg a rhifau'n cael eu defnyddio'n ymarferol mewn gwahanol feysydd, bydd y disgyblion yn dod i sylweddoli pa mor bwysig yw cael sgiliau rhifedd da yn y dyfodol.

"Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad clir i wella safonau llythrennedd a rhifedd i bawb, gan leihau effeithiau amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol. Fel rhan o hynny, byddwn ni'n cynnal rhaglen bum mlynedd o weithgareddau o dan y Rhaglen Rhifedd Cenedlaethol, er mwyn codi lefelau rhifedd ymhlith disgyblion oedran ysgol ledled Cymru.

"Mae'r cynllun newydd hwn yn rhan bwysig o'r gwaith parhaus hwnnw. Dw i'n si诺r y bydd yn helpu i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith, a hefyd bydd yn hyrwyddo enw da a chodi proffil cyflogwyr a chwmn茂au yn y gymuned."

Arloesol ac unigryw

Fe fydd tri sefydliad, sef Techniquest, Techniquest Glyndwr, a Steam Powered Stories, yn defnyddio'u cysylltiadau presennol neu'n creu cysylltiadau newydd rhwng cyflogwyr ac ysgolion, ac fe fyddan nhw'n gyfrifol am weithredu model pwrpasol i greu cysylltiadau rhwng ysgolion a busnesau.

Fe fydd y cynllun newydd yn gweithredu ar lefel ranbarthol er mwyn bodloni anghenion ysgolion unigol, a bydd yn seiliedig ar yr hyn y gall cyflogwyr lleol ei ddarparu.

Nod hynny yw rhoi cyfle i bob rhaglen fod yn arloesol ac yn unigryw.