91热爆

'Gall y celfyddydau wella addysg' - Cyngor Celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
Paint brushes

Mae ffocws Llywodraeth Cymru ar wella llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion yn "cyfyngu ar gyfleoedd pobl ifanc i fod yn rhan o weithgareddau creadigol".

Dyna medd adroddiad newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan ddweud eu bod yn pryderu bod y celfyddydau bellach yn foethusrwydd 芒 blaenoriaeth isel.

Cafodd Cyngor Celfyddydau Cymru ei gomisiynu i edrych ar y ddarpariaeth o gelfyddydau mewn ysgolion.

Er eu bod yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn iawn i ganolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd, maen nhw'n bryderus bod hynny'n cyfyngu ffocws ysgolion.

'Blaenoriaethau'

Fe ddywed adroddiad CCC: "Mae'r pwyslais angenrheidiol ar hyn o bryd ar lythrennedd a rhifedd yn cyfyngu ffocws ysgolion a chyfyngu ar gyfleoedd pobl ifanc i fod yn rhan o weithgareddau creadigol allai arwain - yn eironig - at wella safonau yn y meysydd yma.

"Mae hynny'n cadarnhau'r egwyddor a sefydlwyd yn yr adroddiad yma y dylid ystyried dysgu drwy'r celfyddydau fel modd o wella safonau mewn llythrennedd a rhifedd yn hytrach na thynnu oddi wrth y blaenoriaethau academaidd yna."

Pryder arall yw bod athrawon yn cael eu llethu gan orchmynion eraill a chyllidebau sy'n lleihau, ac nad ydyn nhw'n medru gwneud y celfyddydau yn flaenoriaeth.

"Yr ymateb a gafwyd o holiaduron i ysgolion, cyfarfodydd ac ymweliadau oedd bod llawer ddim teimlo bod yr hinsawdd cyffredinol ar gyfer y celfyddydau mewn ysgolion yn bositif iawn.

"Roedd rhai yn priodoli hyn i athrawon yn cael eu llethu gan orchmynion eraill, yn enwedig ar lefel ysgolion uwchradd.

"Barn oedd yn codi'n gyson oedd bod penaethiaid yn hanfodol er mwyn noddi'r celfyddydau, ac fe all safon dysgu'r celfyddydau mewn ysgolion fod yn ddibynnol iawn ar gael pennaeth sy'n gefnogol i'r celfyddydau.

"Roedd barn hefyd bod mwyafrif y penaethiaid yn canolbwyntio ar wella llythrennedd a rhifedd, ac fe allai'r celfyddydau ddiodde' gan ydyn nhw'n cael eu gweld fel cael yr un flaenoriaeth."

'Cyfraniad unigryw'

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths AC: "Mae'r adolygiad yn dangos bod llawer o waith da yn digwydd rhwng ysgolion, artistiaid a sefydliadau celfyddydol.

"Rydym yn gwybod y gall pynciau celfyddydol wneud cyfraniad unigryw i allu person ifanc i ddychmygu, creu a chyfathrebu fel y gallan nhw fod yn unigolion hyderus a chreadigol.

"Bydd yr adroddiad hwn yn gymorth i ni godi proffil y celfyddydau mewn addysg."

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis AC:

"Rwy'n croesawu'r adroddiad sy'n taflu goleuni ar r么l dull creadigol sy'n gyfoeth o'r celfyddydau wrth ddenu sylw dysgwyr a datblygu sgiliau creadigol, a sut y gallai hyn arwain at fuddion ar draws yr holl bynciau.

"Byddwn nawr yn cymryd amser i ystyried yr adroddiad yn fanylach ochr yn ochr 芒'n hadolygiad ehangach o'r cwricwlwm cyfan, ac fe fyddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn wella cydweithio rhwng y sectorau addysg a chelfyddydau yng Nghymru."

Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r Athro Dai Smith, a dywedodd:

"Dylid ystyried dysgu drwy'r celfyddydau fel modd o alluogi gwella safonau mewn llythrennedd a rhifedd yn hytrach na thynnu oddi wrth y blaenoriaethau academaidd yna.

"Rwy'n credu bod yr adroddiad yn rhoi darlun clir o fanteision dysgu o'r fath. Mae gennym athrawon ac artistiaid sy'n uchelgeisiol ac am weld Cymru ar flaen yr hyn sy'n addo bod yn chwyldro mewn systemau addysgol mewn rhai o wledydd mwyaf blaenllaw y byd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol