Sefydlu G诺yl Golwg yn flynyddol?
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr g诺yl i ddathlu chwarter canrif ers sefydlu cylchgrawn Golwg yn ystyried gwneud yr 诺yl yn un flynyddol.
Yn 么l Owain Schiavone, prif weithredwr gwefan Golwg360, roedd "rhai cannoedd" wedi dod i'r digwyddiad yn Llanbedr Pont Steffan dros y penwythnos a llawer iawn wedi holi am y posibilrwydd o'i chynnal eto.
"Dwi'n meddwl, ar y cyfan, ei bod wedi bod yn llwyddiannus. Roeddan ni wedi cwrdd 芒'r nod oeddan ni wedi'i osod, sef nodi achlysur pen-blwydd cylchgrawn Golwg yn 25," meddai Mr Schiavone.
"Mae 'na lot fawr o alwadau wedi bod i drio gwneud rhywbeth blynyddol allan o hyn. Fydd rhaid i ni ystyried hynny.
"Ond mae trefnu rhywbeth fel hyn yn cymryd tipyn o amser ac egni.
"Roeddwn i'n teimlo bod yr arlwy yn adlewyrchu'r hyn mae Golwg wedi cynnig llwyfan iddo dros y 25 mlynedd diwetha' ac hefyd edrych i'r dyfodol hefyd, hefo'r sgyrsiau amrywiol a'r gweithgareddau plant ac ati.
Lleoliad
"Dwi'n meddwl bod y ffaith bod o'n digwydd yn Llanbed, yng ngorllewin Cymru, yn bwysig. Mae'r math yma o 诺yl - sydd 芒 phwyslais ar y celfyddydau - yn tueddu i fod yn fwy dinesig.
"Dwi wastad wedi'i chymharu hi hefo G诺yl y Gelli o ran naws, ond yn amlwg mae'n fwy Cymreig ac yn fwy teuluol - dwi'n meddwl bod 'na fwlch ar gyfer y math yna o beth yng ngorllewin Cymru."
Ond ychwanegodd Mr Schiavone nad oedd unrhyw beth wedi'i gadarnhau ac y byddan nhw'n ystyried yr opsiynau dros yr wythnosau nesa'.
"Ond 'da ni wedi sefydlu'r ddarlith goffa, Darlith Islwyn Ffowc Elis, a 'da ni'n awyddus i weld honno'n dod yn ddarlith flynyddol. Mae'n rhy fuan i ddweud a fydd yr 诺yl gyfan yn rhywbeth rheolaidd."
Newid y dyddiad?
Dywedodd y byddai yna "fanion" yn cael eu newid petai'r 诺yl yn cael ei chynnal eto, gan gynnwys yr amseriad.
"Roedd y dyddiad eleni yn nodi'r pen-blwydd, ond mae'n rhywbeth i'w ystyried. Roeddan ni'n ymwybodol bod 'na dipyn o ddigwyddiadau'n lleol dros y penwythnos. Dyna pam oedd yr 诺yl yn dod i ben ddiwedd y pnawn.
"Hefyd mae'n bosib na fydden ni'n ymestyn hi dros dridiau - dim ond ar y penwythnos."
Does dim cadarnhad eto o faint o bobl ddaeth i'r 诺yl eleni, ond roedd y trefnwyr yn dweud bod "rhai cannoedd" wedi ymweld, gyda'r nifer ucha' ar y dydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2013
- Cyhoeddwyd6 Awst 2013
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011