91热爆

Traeth newydd yn denu ymwelwyr ym Mae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
Bae Colwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwaith i adnewyddu traeth Bae Colwyn wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer yr ymwelwyr i'r dref

Mae traeth newydd, a gafodd ei greu drwy bwmpio tywod o'r m么r yng ngogledd Cymru, wedi denu ymwelwyr a hybu busnes.

Cafodd hanner miliwn tunnell o dywod ei bwmpio i draeth Bae Colwyn ym mis Ebrill ar gost o 拢6m, i wella twristiaeth ac amddiffyn y dref rhag y m么r yn well.

Mae Rhwydwaith Fusnes Bae Colwyn yn dweud bod niferoedd ymwelwyr wedi cynyddu o 5% yn y ddau fis ers agor y traeth.

Mae'r syniad yn rhan o nifer o gynlluniau adfywio gwerth 拢52m gan Gyngor Conwy.

'Addawol'

Dros y blynyddoedd mae tywod wedi ei olchi o'r traeth, gan olygu bod tonnau yn llachio'r arfordir, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

Ond mae gobaith y bydd y traeth newydd yn lleihau effaith ddinistriol y m么r.

Cafodd y tywod ei dynnu o 20 milltir allan i'r m么r gan long, cyn cael ei bwmpio i'r traeth.

Yn 么l llefarydd ar ran rhaglen adfywio Cyngor Conwy, Rupert Moon, mae'r traeth yn rhan ganolog o'r cynlluniau ym Mae Colwyn.

"Roedden ni'n gwybod y byddai'r traeth yn cael effaith ar niferoedd yr ymwelwyr i Fae Colwyn, ond mae'n syndod mor sydyn mae busnesau lleol wedi dechrau gweld y gwahaniaeth."

"Mewn cyfnod pan mae gwestai yn ei chael hi'n anodd, mae gweld gwahaniaeth o ganlyniad i gynllun lleol yn addawol."

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld beth fydd yr effaith ar Fae Colwyn, wrth i'r dref sefydlu ei hun fel un o berlau gogledd Cymru."

Mae un gwesty gwely a brecwast yn y dref, Ellingham House, yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd o 20% mewn busnes, ac ymwelwyr yn dod o leoliadau pellach.

Meddai'r perchennog Ian Davis: "Fel preswyliwr lleol a dyn busnes, mae'n wych gweld gwelliant yn y dref."

"Mae cymaint i'w gynnig yma a chyfleoedd mawr i fuddsoddwyr."