Grant i ddechrau'r gwaith o adfer pier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i adfer Pier Victoria rhestredig Gradd II ym Mae Colwyn i'w gyn-ogoniant wedi derbyn hwb.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cymeradwyo cynlluniau Cyngor Sir Conwy i symud ymlaen 芒'i gynlluniau ar gyfer y pier gan gyfrannu 拢594,900 o grant datblygu.
Fel rhan o'r cynlluniau bydd pafiliwn Art Deco y pier yn cael ei ddatblygu fel canolfan ar gyfer celfyddyd, adloniant a gweithgaredd cymunedol.
Mae'r cynlluniau yn rhan o adfywiad ehangach 拢56m Bae Colwyn.
Dywedodd Manon Williams, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Mae'r Pier nid yn unig yn eistedd yng nghalon Bae Colwyn, ond mae ganddo hefyd le amlwg yn hanes y gyrchfan a phensaern茂aeth glan y m么r Cymru.
"Mae gan y prosiect, sy'n ganolog i adfywio Bae Colwyn, gefnogaeth gref gan y gymuned gyda chyfleoedd sylweddol i greu swyddi, hyfforddiant a gwirfoddoli a byddai'n darparu hwb sylweddol i'r economi leol."
Y pier oedd un o brosiectau adeiladu pier olaf cyfnod Victoria - mae wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers 2008.
Mae'r pafiliwn wedi cynnal perfformiadau gan artistiaid mor amrywiol 芒 Morcambe and Wise, Harry Secombe ac Elvis Costello.
Mae llawer o syniadau ar gyfer adrodd hanes Bae Colwyn gan gynnwys prosiect hanes llafar dan arweiniad y gymuned, teithiau mewn gwisg a theithiau cerdded.
Syniad arall sy'n cael ei ystyried yw adfer murluniau gan yr artistiaid Eric Ravilious a Mary Adshead, y ddau yn ffigurau amlwg yn genedlaethol yn hanes celf Prydain yn yr 20fed Ganrif.
Meddai'r Cynghorydd Mike Priestley, cadeirydd Bwrdd Prosiect y Pier: "Rydym yn ddiolchgar iawn y gall Cronfa Dreftadaeth y Loteri weld potensial y prosiect hwn.
"Mae eu cefnogaeth yn gam mawr ymlaen i ddyfodol y pier a'i botensial i gyfrannu i adfywiad glan y m么r Bae Colwyn a'r gymuned ehangach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd17 Awst 2012