Trafod iaith a'r Cyfrifiad
- Cyhoeddwyd
Mae cynhadledd arbennig sy'n dechrau ddydd Mawrth yn trafod oblygiadau Cyfrifiad 2011 yng Nghymru, yr iaith Gymraeg yn benodol.
Trefnir y gynhadledd gan WISERD - Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau - ac mae'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest.
Dyma'r pedwerydd tro i WISERD gynnal eu cynhadledd flynyddol.
Un o brif siaradwyr y gynhadledd yw'r Athro David Martin, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil, sy'n arwain sesiynau ar 'Yr Iaith Gymraeg a'r Cyfrifiad', a 'Tu Hwnt i 2011' sef rhaglen gyfrifiad Llywodraeth Cymru.
Effeithiau ieithyddol
Fel rhan o hynny mae'r Athro Lindsay Paterson o Brifysgol Caeredin yn defnyddio achos yr Alban i asesu effeithiau ieithyddol a hunaniaeth genedlaethol y Cyfrifiad.
Yn ogystal mae'r Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yn trafod heriau arwain sefydliad cenedlaethol ac yn cyflwyno ei hymchwil diweddaraf am ddatganoli yng Nghymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Gareth Rees: "Mae'n anrhydedd cael rhestr o siaradwyr mor nodedig yn y digwyddiad.
"Bydd y sesiynau am y Cyfrifiad yn gyfle gwych i'r rhai fydd yn bresennol eleni, ac yn ychwanegiad gwych i'r arlwy.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu siaradwyr a chynrychiolwyr o ystod eang o sectorau."
Mae disgwyl 150 yn y gynhadledd sy'n cael ei chynnal ar Fehefin 25 a 26 yng Nghanolfan Gynhadledd Morgannwg, Prifysgol De Cymru, Trefforest.
Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno "Siarter Sir G芒r" i arweinydd y cyngor Kevin Madge, y dirprwy brif weithredwr Chris Burns a'r Cynghorydd Mair Stephens sydd 芒 chyfrifoldeb dros yr iaith.
'Gosod esiampl'
Roedd y Cyfrifiad yn dangos mai yn Sir G芒r y bu'r cwymp gwaethaf yng Nghymru o ran siaradwyr Cymraeg.
Mae'r siarter yn galw ar y cyngor sir "i osod esiampl trwy symud tuag at gyflawni ei waith ei hun trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy bwyso ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau nad ydynt yn rhagfarnu yn erbyn yr iaith."
Dywedodd Sioned Elin, cadeirydd y mudiad iaith yn y sir: "Mae'r siarter hefyd yn galw am newidiadau polisi radicalaidd er mwyn cynnal cymunedau Cymraeg y sir, gan gynnwys cynnal gwasanaethau lleol, adolygu cynllun datblygu lleol yn wyneb dirywiad y Gymraeg a darparu tai cymdeithasol a fforddiadwy i bobl leol."
Ynghynt yn y mis gwrthododd y cyngor gynnig Plaid Cymru oedd yn galw "ar Lywodraeth Cymru i ystyried sirchau bod yr iaith yn ystyriaeth gynllunio berthnasol" ac yn gofyn am sefydlu corff statudol fyddai'n asesu'n wrthrychol effaith ceisiadau cynllunio ar yr iaith.
Pleidleisiodd y cyngor o blaid gwelliant y gr诺p Llafur "yn galw am eglurder a chryfhau TAN 20."
Awgrymodd y gwelliant y dylai Pwyllgor Gwaith Cyfrifiad y cyngor drafod a chynnig argymhellion.
Bydd y pwyllgor yn adrodd yn 么l ddiwedd y flwyddyn neu yn gynnar yn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2013
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012