91热爆

Mesurau i wella ymwybyddiaeth mewnfudwyr?

  • Cyhoeddwyd
Cyfrifiad 2011Ffynhonnell y llun, ONS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd manylion y Cyfrifiad yn dangos cwymp yn nifer siaradwyr Cymraeg

Mae arbenigwr iaith blaenllaw wedi awgrymu bod angen ystyried cyflwyno mesurau i wella ymwybyddiaeth mewnfudwyr o'r iaith Gymraeg cyn iddyn nhw symud i Gymru.

Roedd Cefin Campbell, cyfarwyddwr ac ymgynghorydd iaith Sbectrwm, yn siarad ar y Post Cyntaf fore Gwener.

Roedd yn ymateb i ystadegau diweddara' gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r ffigyrau yn rhoi darlun manylach o gefndiroedd siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith yng Nghymru.

40,000

Yng Ngwynedd o'r 121,874 sydd yn byw yno mae dros 40,000 wedi eu geni y tu allan i Gymru.

Yng Ngheredigion mae 75,922 yn byw, yn 么l y Cyfrifiad, a bron i 32,000 ohonyn nhw wedi eu geni y tu allan i Gymru.

Mae 44,084 o bobl Sir Caerfyrddin wedi eu geni y tu allan i Gymru o'r cyfanswm o 183,777 sy'n byw yno.

Nifer fechan iawn o'r mewnfudwyr yn y tair sir sydd wedi dysgu Cymraeg ar 么l symud i Gymru.

"Niweidiol tu hwnt"

Dywedodd Mr Campbell nad oedd y ffigyrau yn ei synnu.

Roedd Cyfrifiad 2011, meddai, yn cadarnhau'r hyn yr oedd swyddogion ac ymchwilwyr ym maes yr iaith yn ei wybod ers peth amser - bod y mewnlifiad i gefn gwlad a'r all-lifiad o bobl ifanc i'r dinasoedd yn cael effaith "niweidiol tu hwnt" ar y Gymraeg.

Dywedodd Mr Campbell, un o sylfaenwyr menter iaith gyntaf Cymru yng Nghwm Gwendraeth, ei fod wedi bod yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith yn ei ardal leol a bod mewnfudwyr am y tro cyntaf yn dod i wybod am y diwylliant Cymraeg o'u cwmpas.

Awgrymodd hefyd fod angen ystyried ymestyn mesurau o'r fath: "Rydyn ni wedi clywed llawer yn ddiweddar am y "Britishness Test" o safbwynt mewnfudwyr sy'n symud i Loegr yn bennaf.

"Ond falle ei fod e'n rhywbeth i feddwl amdano, drwy annog mewnfudwyr i Gymru i gael rhyw sesiynau ymwybyddiaeth neu sesiynau blasu iaith fel rhywbeth normal fyddai'n digwydd fel rhan o'r ddarpariaeth ar gyfer gweld pobl yn symud i'n hardaloedd ni."

Cynlluniau economaidd

Dywedodd hefyd bod angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanylach ar bolis茂au i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu aros yng nghefn gwlad.

Ar Newyddion Naw nos Iau awgrymodd arbenigwr arall ar yr iaith, yr Athro Harold Carter, bod angen rhoi'r flaenoriaeth i gynlluniau economaidd er mwyn atal yr iaith Gymraeg rhag edwino ymhellach yn ei chadarnleoedd.

"Mae angen buddsoddiad mewn trafnidiaeth, ffyrdd, cyflymu'r we, popeth sy'n helpu pobl i ddatblygu yn economaidd yng nghefn gwlad.

"Hon yw'r ffordd orau i gadw'r iaith mewn ardaloedd fel Ceredigion."