91热爆

Jane Hutt: 'bargen anodd' yn wynebu Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jane Hutt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jane Hutt wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau anodd

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu 'bargen anodd' yn sgil y toriadau nesaf fydd yn cael ei chyhoeddi gan y Canghellor.

Dyna bryder gweinidogion yng Nghymru cyn i George Osbourne gyhoeddi ei adolygiad gwariant ar Fehefin 26.

Mae gwahanol adrannau wedi cael gwybod faint o arbedion y mae'n rhaid iddyn nhw wneud gyda thoriadau posib yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd.

Yn gynharach yn yr wythnos mi wnaeth Prif Weinidog Cymru rhybuddio y gallai yna fod torri n么l yn y flwyddyn ariannol hon.

拢80 miliwn

Mae Jane Hutt, y gweinidog cyllid wedi dweud wrth raglen wleidyddol y 91热爆 Sunday Politics bod angen iddi ffeindio 拢32 miliwn o arbedion eleni a bod y llywodraeth yn wynebu toriad o 拢80 miliwn y flwyddyn nesaf.

Mi wnaeth hi gyfarfod ysgrifennydd y trysorlys, Danny Alexander ym Melfast wythnos diwethaf:

"Rydyn ni yn gwybod ein bod ni yn mynd i gael bargen anodd o ran yr adolygiad gwariant oherwydd maen nhw wedi dynodi yn y gyllideb ym mis Mawrth bod angen iddyn nhw ffeindio 拢11.5 biliwn ar ben y toriadau eraill rydyn ni wedi gorfod ymdopi a nhw. Mae hynny yn golygu dewisiadau anodd iawn i Lywodraeth Cymru."

Fydd y fwyell ddim yn disgyn ar rai adrannau megis iechyd a'r gyllideb ar gyfer buddion cyffredinol fel presgripsiynau am ddim. Ond mae adrannau fel y llywodraeth leol yn debygol o weld y pres maen nhw'n derbyn yn crebachu.

Gwarchod iechyd

Dywed y Ceidwadwyr ei bod eisiau gweld y gyllideb iechyd yn cael ei gwarchod yn llwyr fel bod y gyllideb yn codi gyda chwyddiant. Byddai hynny yn golygu toriadau mwy dwfn mewn meysydd eraill.

Yn 么l llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, yr AC Paul Davies, mae Llywodraeth San Steffan wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn y blynyddoedd diwethaf a dyna yw natur gwleidyddiaeth: "Dyna yw gwleidyddiaeth- gwneud dewisiadau ac mae gan Lywodraeth Cymru'r p诺er i wneud y dewisiadau hynny ac i flaenoriaethu yn addas. Dyna pam y bydden ni er enghraifft eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn amddiffyn y gyllideb iechyd."

Bydd Jane Hutt yn cyhoeddi ei chyllideb nesaf yn yr hydref.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol