Rhybudd am doriadau pellach
- Cyhoeddwyd
Bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o doriadau yw gwariant er mwyn medru cadw at addewidion eu maniffesto, yn 么l y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Dywedodd bod gweinidogion yn cyfarfod bob pythefnos er mwyn edrych ar eu cyllidebau gyda chrib man, gyda toriadau pellach yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn bosibilrwydd.
Bydd meysydd sydd wedi ei amddiffyn rhag doriadau, sy'n cynnwys ysgolion, iechyd a buddion cyffredinol fel presgripsiynau am ddim, yn parhau i fod yn ddiogel.
Ond gellir ystyried meysydd eraill fel bod yn "ddiamddiffyn" meddai Carwyn Jones yn ystod cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Dywedodd fod ei lywodraeth yn wynebu "realaeth llwm iawn mewn cysylltiad 芒 phenderfyniadau ariannol anodd".
Mae cyllidebau sydd heb eu hamddiffyn yn cael eu sgrwtineiddio yn ystod y cyfarfodydd cabinet "yn llythrennol, linell wrth linell".
Ond mae'r Prif Weinidog yn parhau i fod yn ffyddiog y bydd ei blaid yn medru cyflawni'r addewidion oedd yn eu maniffesto.
Er mwyn gwneud hyn mae'n bosibl y bydd toriadau pellach yn cael eu gwneud y flwyddyn hon.
"Allwn ni ddim gaddo y bydd dim toriadau i gyllidebau yn y flwyddyn hon," meddai Mr Jones.
Dywedodd wrth y Canghellor George Osborne i beidio 芒 thorri cyllideb Llywodraeth Cymru ymhellach fel rhan o'i adolygiad gwario y bydd yn ei gyflwyno erbyn diwedd mis Mehefin.
"Digon yw digon," meddai.
Mae'r Blaid Lafur yn San Steffan wedi dweud yn ddiweddar y bydden nhw'n gosod cyfyngiadau ar rhai budd-daliadau pe baen nhw'n ennill yr etholiad nesaf, gan gynnwys torri'r budd-dal ar gyfer tanwydd mae pobl h欧n gyfoethog yn ei dderbyn.
Ond gwnaeth Carwyn Jones hi'n glir y bydd ei lywodraeth ef yn cadw at yr egwyddor o roi budd-daliadau i bawb beth bynnag yw ei statws ariannol.
Iechyd
Yn y cyfamser mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd byrddau iechyd yn cydbwyso eu llyfrau ariannol dros gyfnod o dair blynedd o'r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen.
Mae'n bwriadu cyflwyno'r rheoliadau newydd cyn mis Ebrill 2014.
Ar hyn o bryd mae disgwyl iddynt wneud hynny bob blwyddyn - sefyllfa sydd wedi arwain at ddadlau wrth i'r llywodraeth orfod rhoi arian ychwanegol iddynt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ar sawl achlysur.
Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r penderfyniad yn galluogi i "benderfyniadau doeth tymor-hir gael eu gwneud".
Mae llefarydd iechyd yr wrthblaid Darren Millar hefyd o blaid y cynllun - dywedodd ei fod yn ei "groesawu'n fawr" a'i fod yn "hen bryd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013