91热爆

Yw'r economi yn dechrau blaguro?

  • Cyhoeddwyd
wythnos economi

Fel rhan o wythnos o erthyglau arbennig yn ymwneud 芒'r economi yng Nghymru, Ll欧r Roberts o Adran Farchnata a Rheoli Strategol Ysgol Fusnes Caerdydd sy'n bwrw golwg ar y dyfodol. Mewn cyfnod anodd, tybed a yw economi Cymru'n gwella?

Ar y cyfan mae sylwebwyr economaidd yn gyndyn i roi eu pen ar y bloc a dweud bod yr economi yn egino. Mae sawl gwleidydd ac arbenigwr wedi llosgi eu bysedd ar 么l s么n am flaguro economaidd yn rhy gynnar wedi cyfnod o ddirwasgiad.

Rhaid bod yn ofalus felly cyn mentro darogan bod yr economi yn tyfu.

Caiff rhyw ystadegyn ac adroddiad neu'i gilydd ei gyhoeddi yn ddyddiol yngl欧n 芒 chyflwr yr economi, ac mae'r rhain yn aml yn gwrthddweud ei gilydd.

Cynnydd yn y nifer mewn gwaith ar y naill law ond nifer gynyddol mewn swyddi tymor byr ac yn gyndyn i wario ar y llaw arall. Twf parchus yn economi'r UDA a llewyrch cynyddol econom茂au newydd yn Asia, De America ac Asia, ond problemau dybryd mewn sawl un o wledydd Ewrop, ein prif bartner busnes ni ym Mhrydain.

Ond trwy hyn oll mae yna ddau ffactor mawr sy'n destun gobaith.

Rydym wedi gweld partneriaeth aeddfed rhwng cyflogwyr a gweithwyr dros y blynyddoedd diwethaf sy'n golygu bod llawer llai o bobl wedi colli eu gwaith nag yn ystod dirwasgiadau'r gorffennol.

Ac mae nifer fawr o fusnesau bach newydd wedi eu sefydlu fydd yn tyfu a ffynnu, gobeithio, mewn blynyddoedd i ddod.

Adferiad graddol ond mwy cadarn?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'r Canghellor George Osborne yn rhy ofalus, yn 么l rhai

Mae'r adferiad mewn lefelau cynnyrch gwladol wedi bod yn rhwystredig o araf ers dirwasgiad 2008 ac yn llawer arafach nag a welwyd yn y gorffennol.

Mae lefelau GDP Prydain heddiw dal yn is nag oedden nhw bum mlynedd yn 么l sy'n golygu ein bod ni i gyd yn dlotach ar bapur. Ond mae posib dadlau bod yr adferiad hwn yn fwy cadarn o'r herwydd.

Twf mawr yn y sector bancio ac mewn gwario gan gwsmeriaid oedd yr achubiaeth wedi'r ddau ddirwasgiad diwethaf yn yr 1980au a'r 90au ond rydym i gyd yn gwybod bellach nad oedd hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Gor-fenthyg a gor-ehangu gan y banciau yw'r rheswm ein bod ni yn y twll yma yn y lle cyntaf.

Yn hytrach mae'n rhaid i ni greu economi fwy deallus a dechrau cynhyrchu pethau unwaith eto i'w hallforio i farchnadoedd newydd.

Dyw shifft o'r fath ddim yn hawdd a ddim yn mynd i ddigwydd dros nos, ond mae ffigyrau allforion Cymru dros y ddegawd a mwy ddiwethaf yn galonogol, er bod ambell blip ystadegol o bryd i'w gilydd.

Y gambl fawr

Mae'r twf a welwyd mewn gwerthiant tai dros y misoedd diwethaf yn awgrym pellach bod yr economi yn cryfhau. Y cwymp yng ngwerth y sector adeiladu oedd un o'r rhesymau am y ffigyrau GDP gwan dros y blynyddoedd diwethaf wrth i'r diwydiant ddioddef lleihad mewn gwariant ar brosiectau adeiladu sector gyhoeddus a galw am dai yr un pryd.

Bu'r Canghellor yn ofalus iawn - ac yn or-ofalus, yn 么l rhai - yn ei gyllidebau cynnar, gan annog bancio mwy cyfrifol ac adeiladu cronfeydd wrth gefn.

Canlyniad hyn oedd bod y banciau a chymdeithasau adeiladu wedi bod yn gyndyn i fenthyg heb flaendaliadau sylweddol, gan ei gwneud hi'n amhosib i lawer brynu tai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gallai problemau gwledydd yr Ewro fod yn gwmwl llwyd ar y gorwel

Roedd y mesurau i warantu morgeisi pobl a gyhoeddwyd gan George Osborne yn ei gyllideb ym mis Mawrth yn annisgwyl felly ac yn fentrus iawn ac mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n dwyn ffrwyth.

Ond fel y rhybuddiodd Llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, mae yna beryglon gyda pholisi o'r fath, a rhaid sicrhau na fydd yn arwain at gynnydd anghynaliadwy unwaith eto mewn dyledion a phrisiau tai yn y tymor canolig a hir.

Mae pethau yn edrych yn fwy gobeithiol felly ar y cyfan, ac rwyf am fentro darogan ein bod ni yn debyg o weld mwy o flaguro economaidd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesa.

Ond mae yna hefyd sawl cwmwl llwyd yn dal ar y gorwel, yn enwedig problemau gwledydd yr Ewro, a allai ladd yr egin economaidd bregus hwn cyn iddo gael cyfle i dyfu'n adferiad llawn.