91热爆

Pobl ifanc Cymru'n methu cael gwaith

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc dal yn ei chael hi'n anodd darganfod swyddi bum mlynedd ar 么l argyfwng economaidd 2008.

Gyda'r ffigyrau gwaith diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher, mae dau 诺r ifanc o Benrhyn Ll欧n wedi bod yn siarad am eu profiadau nhw.

Mae un ohonynt yn dal yn fyfyriwr ac yn bryderus am beth fydd yn ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf, a'r llall wedi penderfynu chwilio am borfeydd newydd dramor wedi iddo fethu a darganfod swydd addas yng Nghymru.

Liam Kennedy

Mae Liam Kennedy yn 20 oed ac yn wreiddiol o Bwllheli ac yn gwneud cwrs Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Nid yw'n anghyffredin bellach i fyfyrwyr dreulio peth amser yn chwilio am swydd yn ystod cyfnod eu gradd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Liam Kennedy newydd orffen ei arholiadau olaf ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae Liam wedi ceisio am "dair neu bedair" o swyddi'n barod - ond a fyddai'n well iddo ganolbwyntio ar ei arholiadau'n gyntaf?

"Mae angen gwneud rhyw fath o chwilio yn syth," meddai Liam.

"Mae help ar gael yma yn y brifysgol - y Gwasanaeth Gyrfaoedd er enghraifft, gwasanaeth fydd ddim yn agored i ni'r flwyddyn nesaf."

Yn 么l Liam, nid yw'n anghyffredin i rywun fel fo, sydd ar fin graddio, wynebu cystadleuaeth gan bobl llawer h欧n.

"Mi gefais gyfweliad am un o'r swyddi ceisiais amdani. Fe gesh i fynd yna, i ganolfan asesu, am y diwrnod.

"Roedd yna lot o bobl yno ac roeddwn i'n gweld bod rhai ohonyn nhw lot h欧n na fi.

"Roedd yna hogyn yno yng nghanol ei ugeiniau oedd yn amlwg efo llawer mwy o brofiad na fi - a dyna be maen nhw'n chwilio amdano.

"Mae angen y profiad yna. Roedd o yn gwybod be sy'n digwydd yn y farchnad fwy na fi oherwydd dwi wedi dod yn syth o'r brifysgol.

"Mae popeth rydw i wedi ei wneud ar bapur, does gen i ddim y market knowledge yna eto... mae'n anodd ar hyn o bryd ond bydd yn mynd llawer haws fel dwi'n mynd yn hyn a chael mwy o brofiad."

Efallai nad oes gan Liam wybodaeth arbenigol am y farchnad eto ond mae'n sicr wedi bod yn weithgar iawn yn mynd ati i geisio cael y wybodaeth honno.

Er ei fod wedi mwynhau ei gwrs ac yn meddwl ei fod yn un da iawn o ran safon yr addysg, roedd Liam yn teimlo nad oedd yn cynnig y profiad gwaith sy'n hanfodol er mwyn gwneud argraff ar ddarpar gyflogwyr.

"Doedd dim profiad gwaith ar y cwrs ei hun ond roedd modiwl ychwanegol yn cael ei gynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd o'r enw'r Cardiff Award - roedd hwn yn 70 awr o waith ychwanegol ac roedd profiad gwaith yn rhan o hynny."

Mae'n debyg bod mwy o fyfyrwyr yn gweld angen gwneud gwaith ychwanegol y tu allan i'r brifysgol y dyddiau hyn er mwyn cael y profiad yna sydd mor bwysig yng ngolwg cyflogwyr.

"Mi wnes i wneud 'chydig o ddiwrnodau o brofiad gwaith efo cwmni marchnata yn Whitchurch," meddai Liam.

"Roedd hynny'n rhywbeth wnes i wneud ar fy liwt fy hun gan fod dim byd felly ar y cwrs ei hun - ar fy nghwrs i.

"Mae yna gyrsiau eraill sy'n cynnwys gwneud blwyddyn allan mewn swydd ond mae'r rheini yn gyrsiau pedair blynedd ac felly'n ddrytach."

"Mae lot o'r byd busnes yngl欧n 芒 gwneud cysylltiadau. Mae hynny'n rhan hanfodol ohono fo a dyna beth oedd lot o'r modiwl yma'n ei wneud - dysgu sut i rwydweithio."

Robin Gruffudd

Un sydd wedi bod drwy'r broses o geisio darganfod swydd ydi Robin Gruffudd Hughes o Fotwnnog.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Robin ymddangos ar raglen S4C, Cynefin: Byw yng Nghefn Gwlad, yn ddiweddar

Wedi graddio o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn 2011 mae wedi bod yn ceisio'n gyson am swyddi.

"Roeddwn i'n chwilio'n bob man - ar y we, mewn papurau newydd a phethau felly.

"Roedd rhai swyddi'n cael eu hysbysebu yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y coleg.

"Ro'n i'n trio am 'rheini ond yn cael dim lwc."

Ar fwy nac un achlysur, doedd Robin ddim hyd yn oed yn derbyn ateb gan y cwmni wedi iddo fynd i'r drafferth o wneud cais mewn ymateb i hysbysiad swydd.

"Yn aml roeddwn i'n cael llythyrau yn dweud bod y cais ddim yn llwyddiannus. Dydw i'n dal heb gael ateb gan rai.

"Dwi wedi cael rhai yn dweud eu bod nhw am sb茂o ar y CV ac yna cysylltu'n 么l a dydyn nhw'n dal heb wneud - roedd hynny flwyddyn yn 么l."

Dyw Robin ddim yn sicr faint yn union o geisiadau mae o wedi ei wneud. Mwy na phymtheg?

"Llawer mwy na phymtheg. Be o'n i'n cael gan rai oedd bod gen i ddim digon o brofiad, ond sut ddiawl dwi fod i gael profiad os dydw i ddim yn cael gwaith?"

Mae hon yn g诺yn sydd wedi cael ei gwneud yn aml - cwmn茂au yn mynnu bod angen profiad i wneud swyddi ond yn gwrthod rhoi'r cyfle i bobl ifanc ennill y profiad hwnnw.

Un o effeithiau hyn ydi bod cwmn茂au'n cynnig rhoi'r profiad hwnnw i bobl ar amod - nad ydynt yn cael eu talu am eu gwaith.

Mae hyn yn rhywbeth roedd rhaid i Robin ei wneud.

"Gesh i ryw wythnos o waith yn Eisteddfod yr Urdd efo cwmni teledu yn fanno ynde.

"Ond gwaith di-d芒l oedd hwnnw 'de - ond doedd gen i ddim dewis ond ei gymryd o.

"Un flwyddyn mi wnaethon nhw roid, wel talu am y petrol ynde, a'r flwyddyn wedyn wnaethon nhw ddim. 'Naethon nhw un flwyddyn ond ddim flwyddyn wedyn 'de."

Er bod ganddo radd mewn Cerdd a'r Cyfryngau, penderfynodd Robin fynd ati i ennill cymhwyster pellach.

Felly cafodd le ar gwrs o'r enw Celta - cwrs sy'n hyfforddi pobl sut i ddysgu Saesneg i bobl sy'n siarad ieithoedd eraill.

Er mwyn gwneud hyn fe wnaeth o aros gydag aelodau o'i deulu yn Swydd Efrog am gyfnod.

Erbyn hyn mae Robin wedi sicrhau swydd iddo fo ei hun fel athro Saesneg - yn Kuwait.

"Mae'n wlad wahanol ac mae gwaith fel athro Saesneg yn cynyddu ar draws y byd," meddai Robin.

"Dwi'n gwybod bod llawer o'n ffrindiau i yn bwriadu mynd i China.

"Mae yna lot o bobl o'r wlad yma'n mynd dramor i weithio'r dyddiau yma."

Mae Robin hefyd wedi bod yn gweithio gydag Opera Cymru yn ddiweddar, yn teithio o amgylch y wlad yn perfformio.

Ond gwaith tymor byr yw hwnnw ac roedd Robin yn teimlo ei fod eisiau swydd fwy sefydlog.

"Dwi'n edrych ymlaen at fynd i Kuwait r诺an!"

Fe wnaeth Robin ymddangos ar y rhaglen ar S4C ar nos Lun, Mehefin 10.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol