Lansio prosiect digidol DymaFi.tv
- Cyhoeddwyd
Cafodd prosiect digidol "uchelgeisiol" ei lansio ddydd Iau, gyda'r bwriad o gael pobl ifanc Cymru i ffilmio un diwrnod yn eu bywydau.
Mae prosiect DymaFi.tv yn gofyn i bobl rhwng 13 a 18 oed ffilmio diwrnod yn eu bywydau ar ddydd Sadwrn, 22 Mehefin.
Bydd y fideos wedyn yn cael eu cyfuno mewn i ffilm awr o hyd i'w darlledu ar S4C fis Tachwedd.
Daeth y prosiect i fodolaeth yn dilyn ymgyrch Dyma Fi gan Gomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler.
Wrth lansio'r prosiect dywedodd Mr Towler mai'r nod yw ceisio chwalu ystrydebau o bobl ifanc yng Nghymru.
"Yn gyffredinol, dyw oedolion ddim yn cydnabod gwerth plant a phobl ifanc fel y dylen nhw," meddai.
"Rydym ni eisiau creu consensws yng Nghymru nid yn unig fod Cymru'n le da i gael eich magu, ond bod pobl ifanc yn rhan o'r diwylliant, o fywyd yma heddiw."
Mae lle i ffilmiau pobl ifanc ar wefan DymaFi.tv a hefyd clipiau ffilm sy'n rhoi cyngor ac awgrymiadau ar sut i fynd ati i greu ffilmiau.
Fel darlledwr, mae rhan fawr gan S4C yn y prosiect ac mae Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C yn edrych ymlaen at weld beth fydd pobl ifanc yn ei uwchlwytho i'r wefan.
"Lle i greu yw DymaFi.tv, lle i bobol ifanc wylio, gwneud a rhannu ffilmiau gwreiddiol sy'n berthnasol iddyn nhw.
"Mae pobol ifanc yn gwneud gymaint o bethau cyffrous yn ystod eu bywydau bob dydd a bwriad DymaFi.tv yw cynnig cyfle iddyn nhw ddweud eu stori eu hunain drwy gyfrwng creadigol ffilm.
"Wrth rannu a gwylio ffilmiau ar DymaFi.tv mae cyfle i ni glywed lleisiau newydd a chael cip olwg ar fywydau nad ydyn ni'n aml yn eu gweld ar y teledu."
Ymhlith y sefydliadau eraill sydd wedi cydweithio ar brosiect DymaFi.tv y mae Film Club Cymru, yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ifanc, Cwmni Da, Gwobr Dug Caeredin, Vibe Works a'r cyflwynydd radio Huw Stephens.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2013
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011