Dau ap Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi rhyddhau dau ap addysgiadol newydd ar gyfer gwylwyr ifanc.
Yn 么l S4C, mae'r ddau ap yn rhai addysgiadol sy'n cynnwys rhai o gymeriadau mwyaf poblogaidd y sianel gan gynnwys s锚r y rhaglen Cyw.
Nod Cyw a'r Wyddor yw cyflwyno'r wyddor mewn ffordd sy'n ddiddorol i blant - y syniad yw y bydd y cymeriadau adnabyddus a natur hwyliog yr ap o gymorth i blant sy'n dysgu'r wyddor am y tro cyntaf.
Mae'r ail ap, Gwylltio, yn ymwneud a'r byd natur ac wedi ei lunio er mwyn galluogi plant i ddysgu am blanhigion ac anifeiliaid.
Gellir llwytho'r ddau ap newydd oddi ar y we yn rhad ac am ddim.
Cyflwyno addysg i blant
Dywedodd comisiynydd cynnwys plant S4C, Sioned Wyn Roberts: "Mae ymestyn gwasanaethau Cyw a Stwnsh i blatfformau digidol newydd yn waith pwysig sy'n gosod S4C yng nghanol bywydau plant a phobl ifanc Cymru.
"Nod y ddau ap newydd yw cyflwyno addysg mewn ffordd hwyliog a thrwy ddulliau sy'n berthnasol iddyn nhw.
"Mae'r genhedlaeth yma wedi eu magu gyda'r dechnoleg ddiweddaraf ac mae'n hanfodol bod yr iaith Gymraeg ac S4C yn rhan o'r datblygiadau newydd, heddiw ac wrth edrych i'r dyfodol."
App yn helpu sgiliau iaith
Mae arbenigwr ar ddatblygiad ieithyddol hefyd yn credu y gallai'r ap Cyw a'r Wyddor fod o fudd i blant sy'n dysgu i siarad neu o gymorth i blant ddatblygu eu gallu ieithyddol.
Dywedodd Dr Llion Jones, cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor: "Bydd yn cyfrannu at feithrin datblygiad ieithyddol ac addysgol plant Cymru."
Nid S4C yw'r unig fudiad i lansio ap Cymraeg yn ddiweddar - mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnig ap pwrpasol ar gyfer wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2011