Dim cytundeb rhwng Eos a'r 91热爆 am daliadau darlledu caneuon
- Cyhoeddwyd
Does 'na ddim cytundeb rhwng y 91热爆 ac Eos wedi'r trafodaethau diweddara' gyda phosibilrwydd y bydd yr anghydfod yn para am dros fis.
Ond mae'r 91热爆 yn dweud bod yr asiantaeth hawliau darlledu Eos wedi cytuno i ystyried bod yn rhan o broses gymodi annibynnol.
Dewi "Pws" Morris yw'r diweddara' sy'n dweud na fydd yn cyfrannu at Radio Cymru tra bod yr anghydfod yn para.
Ddim yn deall
Dywedodd ei fod yn annog eraill i beidio 芒 chyfrannu a'i fod yn credu nad oedd y 91热爆 yn ganolog yn deall cyfraniad Radio Cymru at ddiwylliant Cymraeg.
Mae Eos, sy'n cynrychioli tua 300 o gerddorion Cymraeg, am i'r 91热爆 wella'r cynnig yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion, awduron a chyhoeddwyr.
Roedd 'na gyfarfod ddydd Gwener rhwng y 91热爆 ac Eos drwy gyswllt fideo wedi cyfarfod wyneb yn wyneb ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Eos gadarnhau bod y 91热爆 wedi gwrthod y cynnig roddwyd iddyn nhw gan yr asiantaeth yn y cyfarfod hwnnw.
Yn lle defnyddio corff cymodi swyddogol mae'r gorfforaeth wedi dweud y byddai'n fwy tebygol mai person annibynnol fydd yn cynnal y broses, cyfreithiwr neu arbenigwr diwydiant.
Mae'r 91热爆 yn cynnig talu am y broses.
Ymgynghori
Ond dywedodd Dafydd Roberts ar ran Eos y gallai fod yn fis eto cyn y bydd modd cytuno i gynnal trafodaethau cymodi.
Eglurodd fod ganddyn nhw broses ymgynghori i'w dilyn a bod rhaid cysylltu gyda'r aelodau i dderbyn mandad i gytuno i drafodaeth gymodi.
Dywedodd nad oedd yn gwybod faint o amser y byddai hyn yn ei gymryd ond gallai olygu cynnal cyfarfod cyffredinol ymhen rhyw fis.
Ychwanegodd fod y trafodaethau yn oedi oherwydd nad oedd y 91热爆 yn barod i symud oddi wrth y cytundeb presennol o ran talu ffi cyffredinol i PRS (Performing Rights Society) am gerddoriaeth.
Mewn llythyr at staff Radio Cymru ddydd Gwener dywedodd y golygydd, Lowri Davies: "Cynhaliwyd trafodaethau pellach heddiw ac rydan ni'n falch bod Eos wedi cytuno i ystyried cynnig y 91热爆 i ariannu proses gymodi annibynnol mewn ymdrech i ddod 芒'r anghydfod presennol i ben.
"Byddai hyn yn golygu penodi arbenigwr annibynnol ar y cyd i edrych ar y materion pwysig a chymhleth yma yngl欧n 芒 gwerth y repertoire cerddoriaeth Gymraeg.
"Rydan ni'n edrych ymlaen at glywed gan Eos cyn gynted 芒 phosib er mwyn i ni allu gweithio efo'n gilydd i ddod 芒'r anghydfod anodd yma i ben.
'Blaenoriaeth'
"Ein blaenoriaeth ni o hyd, wrth gwrs, ydy dod o hyd i gytundeb sy'n deg i bawb."
Gan ymateb i'r newyddion mwyaf diweddar yngl欧n 芒'r anghydfod rhwng y 91热爆 ac Eos am hawliau cerddoriaeth Gymraeg dywedodd Ymddiriedolwr Cenedlaethol y 91热爆 dros Gymru, Elan Closs Stephens: "Rwy'n mawr obeithio er mwyn y gynulleidfa fod y ffaith fod Eos yn awr yn ystyried cynnig y 91热爆 o broses gymodi annibynnol er mwyn ceisio datrys y mater hwn yn golygu bod gobaith y gellir dod i gytundeb mor fuan 芒 phosibl."
Ers Ionawr 1 2013 dydi Radio Cymru ddim wedi gallu chwarae dros 30,000 o ganeuon Cymraeg.
Maen nhw hefyd wedi cwtogi oriau darlledu'r orsaf.
Mae caneuon Saesneg a cherddoriaeth glasurol ac offerynnol yn cael eu chwarae ar Radio Cymru yn y cyfamser.
Llwyddodd Eos i ddod i gytundeb serch hynny gyda S4C cyn y Nadolig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2013