Archdderwydd i wrthod cyfrannu
- Cyhoeddwyd
Mae'r archdderwydd T James Jones, Jim Parc Nest, a'i wraig y llenor Manon Rhys, wedi dweud na fyddan nhw'n cyfrannu i Radio Cymru tra bod y ddadl gydag Eos yngl欧n 芒 thaliadau i gerddorion Cymraeg yn parhau.
Fe wnaed y cyhoeddiad gan y ddau mewn llythyr yn y Western Mail fore Sadwrn.
Mae Eos yn cynrychioli dros 300 o artistiaid Cymraeg.
Maen nhw mewn anghydfod gyda'r 91热爆 ynglyn 芒 thaliadau i gerddorion.
Dywed Mr Jones ei fod yn anhapus fod y corff sy'n pennu taliadau wedi penderfynu trin Radio Cymru fel radio lleol yn hytrach na gorsaf genedlaethol wrth benderfynu ar daliadau i artistiaid.
Ychwanegodd ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud safiad ond ei fod hefyd yn ffyddiog y bydd yna gymod yn y pendraw.
Ddechrau'r wythnos fe wnaeth 91热爆 Radio Cymru gadarnhau eu bod yn gohirio darlledu cyfres newydd o 'Talwrn y Beirdd' o ganlyniad i'r anghydfod.
Roedd nifer o feirdd wedi dweud eu bod yn cefnogi Eos.
A ddydd Sadwrn, yn rali Cymdeithas yr Iaith ym Merthyr Tudful, fe ddwedodd rhai aelodau na fyddan nhw chwaith yn cyfrannu i'r orsaf tan bod y sefyllfa wedi ei datrys.
Dywed 91热爆 Cymru eu bod yn gweithio yn galed i ddod i gytundeb a'u bod wedi cynnig defnyddio gwasanaeth cymodi annibynnol er mwyn dod 芒'r anghydfod i ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2013