Alfreton 4-3 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Alfreton 4-3 Casnewydd
Colli oedd hanes Casnewydd oddi-cartref nos Wener yn erbyn Alfreton.
Daw hyn wedi eu buddugoliaeth nos Fawrth o 6-2 yn erbyn Caergrawnt ar Rodney Parade.
Y t卯m cartref aeth ar y blaen wedi chwe munud, Nathan Arnold yn ergydio o du allan i'r cwrt.
Sgoriodd Paul Clayton wedi 17 munud i roi'r t卯m Cartref ymhellach ar y blaen.
Fe lwyddodd Michael Smith i roi gobaith i'r ymwelwyr wedi 35 munud ond fe gafodd Alfreton gic o'r smotyn wedi i David Pipe droseddu ar Ben Tomlinson.
Llwyddodd Dan Bradley gyda'r gic i roi'r t卯m cartref yn gyfforddus 3-1 ar yr hanner.
Ond fe wnaeth Yr Alltudion daro'n 么l yn yr ail hanner wrth i Aaron O'Connor sgorio ar yr awr.
Daeth pedwaredd g么l Alfreton gan Clayton 10 munud yn ddiweddarach.
Ac fe ddaeth ail g么l i O'Connor funud cyn y 90 munud.
Roedd 'na chwe munud o amser ychwanegol ond doedd hynny ddim yn ddigon i'r ymwelwyr ganfod cefn y rhwyd a sicrhau pwynt.
Er iddyn nhw golli mae Casnewydd yn parhau ar frig y tabl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2012