Casnewydd 6-2 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd
Casnewydd 6-2 Caergrawnt
Sgoriodd Casnewydd chwe g么l yn eu buddugoliaeth ar Rodney Parade yn erbyn Caergrawnt nos Fawrth.
Mae'r Alltudion yn parhau ar frig y bencampwriaeth.
Doedd Casnewydd ddim wedi ennill yn eu tair g锚m ddiwethaf ond dyma fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn t卯m sy'n brwydro i beidio bod ar waelod y gynghrair.
Lee Minshull, Michael Flynn, Andy Sandell, Aaron O'Connor a Michael Smith wnaeth sgorio i Gasnewydd gyda O'Connor yn cael dwy g么l.
Tom Elliot a Luke Berry sgoriodd i'r ymwelwyr sydd wedi ennill dim ond tair o'u 16 g锚m diwethaf.
Mae gan Gasnewydd bedwar pwynt o fantais ar Wrecsam a gododd i'r ail safle wedi eu buddugoliaeth nhw.
Roedd Casnewydd ar y blaen 2-0 wedi 17 munud cyn i Elliot sgorio i'r ymwelwyr wedi 28 munud.
Ond fe wnaeth Sandell ymestyn mantais y t卯m cartref i fod yn 3-1 ar yr hanner.
O'Connor seliodd y fuddugoliaeth i Gasnewydd wedi 62 munud cyn i Berry gael ail g么l yr ymwelwyr wedi 69 munud.
Ond gyda Chaergrawnt yn dal i ddathlu'r ail g么l fe wnaeth Casnewydd ac O'Connor sgorio am yr ail waith funud yn ddiweddarach cyn i Smith sgorio chweched y t卯m cartref yn y funud olaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012