Croatia 2-0 Cymru

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Ashley Williams yn herio Mario Mandzukic, sgoriwr g么l gyntaf Croatia

Mae Cymru wedi colli am y trydydd tro yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014.

Roedd Cymru wedi gwneud yn dda i wrthsefyll pwysau'r t卯m cartref am hanner awr.

Ond yna llwyddodd Mario Mandzukic i rwydo'n rhwydd wedi camgymeriad amddiffynnol gan Ashley Williams wrth roi pas bl锚r yn 么l i'r g么l-geidwad Lewis Price a'i methodd.

Parhau wnaeth y pwysau ar g么l Cymru yn yr ail hanner.

Ar 么l 58 munud sgoriodd Eduardo Da Silva, roedd o wrth law i roi'r b锚l yn y rhwyd yn dilyn cic gornel.

Ceisiodd Cymru daro n么l ond cafodd peniad Andy King ei arbed gan y ceidwad Pletikosa.

Tua diwedd y g锚m llwyddodd Gareth Bale i guro sawl dyn cyn ergydio.

Er i Pletikosa fethu 芒 dal y b锚l, methu hefyd wnaeth ergyd Sam Vokes.

Roedd Cymru wedi cyrraedd Osijek ar gyfer y g锚m yn obeithiol wedi eu buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd nos Wener.

Cyflwr y cae

Ond roedd Croatia yn gryfach t卯m a hwythau hefyd wedi ennill 2-1 oddi cartref yn erbyn Macedonia nos Wener.

Dydi Croatia ddim wedi colli gartref dim ond unwaith - yn erbyn Lloegr ym mis Medi 2008 - mewn 46 o gemau cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau.

Ar 么l y g锚m dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman: "Roedd Croatia yn haeddu'r tri phwynt.

"Mae Croatia yn d卯m da iawn ond roedd yna elfennau positif i ni."

Ychwanegodd capten Cymru, Ashley Williams, nad oedd yr amgylchiadau yn wych.

"Roedd cyflwr y cae yn warthus," meddai.

"Mae'n wir efallai na ddylwn i fod wedi pasio'r b锚l gan wybod beth oedd cyflwr y cae."

Fe wnaeth ei reolwr ei amddiffyn gan ddweud, "sawl gwaith fyddwch chi'n pasio'r b锚l yn 么l i'r ceidwad ac mae'n iawn?"

"Fe aeth yn sownd yn y mwd, ac fe aeth mewn wedyn."

Fe wnaeth Coleman ddatgelu bod t卯m rheoli Cymru wedi cael pryderon cyn y g锚m am gyflwr y cae yn Stadiwm Gradski.

"Roedd o'n galed iawn un pen pan wnaethon ni ei archwilio.

"Roedd yr un peth i'r ddau d卯m, peidiwch a fy nghael yn anghywir, ond roeddem yn lwcus na wnaeth hi fwrw glaw.

"Oherwydd cyflwr y cae, roeddem yn pryderu y gallai'r g锚m fod yn y fantol.

"Roedd yr hanner lle'r oedden ni'n amddiffyn yn yr hanner cyntaf, lle wnaethon ni gamgymeriad, yn anodd iawn."

Cymru: Price, Gunter, Davies, Williams, Vaughan, Blake, Allen, Ledley(Robson-Kanu - 82') King (Vokes - 72' ), Bale, Morison (Church - 61' )