Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aaron Ramsey yn colli'r gapteniaeth
Mae Aaron Ramsey wedi colli capteniaeth Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Yr Alban a Croatia yn ddiweddarach ym mis Hydref.
Ddydd Gwener cyhoeddodd Chris Coleman, rheolwr Cymru, mai amddiffynnwr Abertawe, Ashley Williams, fydd yn arwain y t卯m yn y ddwy g锚m.
Roedd Ramsey, chwaraewr canol cae Arsenal, yn gapten Cymru pan oedd Gary Speed yn rheolwr Cymru.
Ond mae'r t卯m cenedlaethol wedi colli eu pum g锚m ddiwethaf o dan oruchwyliaeth Coleman.
Pwyllgor disgyblu
Mae Williams eisoes wedi arwain ei wlad bedair gwaith o'r blaen gan gynnwys y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Yr Alban dair blynedd yn 么l.
Cafodd y garfan ei henwi fore Gwener ond dydi Craig Bellamy ddim yn rhan ohoni.
Mae gan flaenwr Caerdydd anaf i'w goes ac mae Coleman am i Bellamy ddweud wrtho erbyn dydd Sul a fydd o'n holliach i wynebu'r Alban ar Hydref 12.
Mae 'na amheuaeth 芒 fydd amddiffynnwr West Ham, James Collins, ar gael ar gyfer y g锚m gartref yn erbyn Yr Alban ac oddi cartref yn erbyn Croatia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd Collins ei anfon o'r cae am ymddwyn yn dreisgar yn ystod y gem gollodd Cymru o 2-0 yn erbyn Gwlad Belg ym mis Medi.
Mi fethodd o'r ail g锚m ragbrofol yn erbyn Serbia pan gollodd Cymru 6-1, ond gallai'r gwaharddiad gael ei ymestyn i ddwy neu dair g锚m.
Bydd pwyllgor disgyblu FIFA yn penderfynu ei dynged yn ddiweddarach ddydd Gwener.
Dydi nifer o chwaraewyr Cymru ddim ar gael ar gyfer y gemau rhagbrofol oherwydd anafiadau, gan gynnwys y g么l geidwaid Wayne Hennessey a Boaz Myhill.
Mae Jack Collinson ac Andrew Croft hefyd wedi'u hanafu ond mae Joe Ledley yn 么l yn y garfan.
Carfan Cymru: v. Yr Alban a Croatia ar Hydref 12 a 16.
Golgeidwaid: Jason Brown (Aberdeen), Lewis Price (Crystal Palace), Owain F么n Williams (Tranmere Rovers)
Amddiffynwyr: Darcy Blake (Crystal Palace), Ben Davies (Abertawe) Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe),
Canol cae: Joe Allen (Lerpwl), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland).
Blaenwyr: Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich City), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).