Safle Pontcysyllte yn 'creu trafferthion'
- Cyhoeddwyd
Mae dynodi Traphont Dd诺r Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth Byd yn 2009 wedi creu problemau cynllunio yngl欧n 芒 gwahaniaethu rhwng y datblygiadau sydd yn dderbyniol a rhai sy'n annerbyniol o gwmpas o safle.
Erbyn hyn mae Cyngor Sir Ddinbych wedi paratoi canllawiau cynllunio newydd i geisio sicrhau nad yw effaith unrhyw ddatblygiad yn amharu ar y safle ac yn gweddu i gyd-destun daearyddol y draphont.
Mae'r canllawiau'n dilyn ymgynghoriad gyda'r cyhoedd.
Ymchwiliad
Cafodd y draphont ei dynodi yn Safle Treftadaeth Byd yn 2009. Ddydd Mawrth fe fydd y cyngor sir yn ystyried y canllawiau newydd ac mae adroddiad swyddogion yn pwysleisio fod absenoldeb eglurdeb wedi achosi trafferthion cynllunio.
Mae'r holl waith yn cyd-fynd ag ymchwiliad Llywodraeth Cymru i bolis茂au yn ymwneud 芒'r amgylchedd hanesyddol.
Eisoes mae 91热爆 Cymru wedi gweld llythyr sy'n dystiolaeth i'r ymchwiliad gan Susan Denyer, Ysgrifennydd ICOMOS, y corff sy'n monitro Safleoedd Treftadaeth Byd.
Mae Ms Denyer o'r farn fod diffyg mesurau statudol i warchod safleoedd Treftadaeth Byd ym Mhrydain yn "wendid".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012