91Èȱ¬

Safle Treftadaeth: Sêl bendith i ganllawiau newydd

  • Cyhoeddwyd
Traphont ddŵr PoncysyllteFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Pont Ddŵr Pontcysyllte yw nodwedd arbennig Safle Treftadaeth y Byd sy'n 11 milltir o hyd

Mae Cyngor Wrecsam wedi rhoi sêl bendith i gynllun i greu ardal gynllunio arbennig 11 milltir o hyd i warchod un o safleoedd treftadaeth y byd.

Byddai'n golygu tynhau'r rheolau'n ymwneud â thraphont ddŵr Pontcysyllte.

Cafodd y cynnig ei basio heb ei newid o gwbl mewn cyfarfod nos Lun a bydd nawr yn cael ei ystyried gan y bwrdd gweithredol.

Mae cannoedd o gartrefi a busnesau yn Wrecsam y tu mewn i'r ardal dan sylw, sy'n ymestyn o Bont Galedryd ger Rhoswiel i raeadr y Bedol.

Traphont ddŵr Pontcysyllte yw nodwedd arbennig Safle Treftadaeth y Byd ond mae'r safle treftadaeth cyfan yn 11 milltir (18 cilometr) o hyd.

Mae 10.5 milltir (17 cilometr) yng Nghymru gyda'r 0.5 milltir (1 cilometr) arall yn Lloegr.

Canllawiau

Mae cynghorau Wrecsam, Dinbych ac Amwythig yn cydweithio gyda'r nod o greu un polisi o ran datblygiadau newydd y tu mewn i'r ardal arbennig.

Byddai'n rhaid i unrhyw ddatblygiadau newydd gydymffurfio â gweledigaeth gyffredinol.

Wrecsam oedd y cyntaf o'r tri awdurdod i ystyried mabwysiadu'r canllawiau newydd.

Mae UNESCO'n gofyn bod y safle a'i amgylchedd yn cael eu diogelu rhag unrhyw ddatblygiad sy'n cael ei dybio'n niweidiol i'r 'Gwerth Cyffredinol Eithriadol'.

Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo gan y tri awdurdod lleol bydden nhw am weld technegau adeiladu o safon uchel o ran siapau toeau, ystyried pa mor addas byddai lleoliadau datblygiadau newydd a pha arwyddion dylai busnesau ddefnyddio ar eu hadeiladau.

Camlesi

Creodd Pontcysyllte, fel 'y bont sy'n cysylltu' afonydd Hafren, Dyfrdwy a Mersi.

Mae 18 pier 126 troedfedd o uchder a 19 bwa, pob un gyda rhychwant o 45 troedfedd.

Mae'n dal 1.5 miliwn litr o ddŵr ac mae'n cymryd dwy awr i'w gwagio.

Ymgymerwyd â'r gwaith gan Thomas Telford ac roedd dan oruchwyliaeth William Jessop y peiriannydd camlesi mwy profiadol.

Gosodwyd y garreg gyntaf ym mis Gorffennaf 1795 ac fe'i gorffennwyd yn 1805 gan ddefnyddio carreg leol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol