Coleman yn credu gall Cymru fygwth

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Gareth Bale yn herio amddiffyn Gwlad Belg nos Wener

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn hyderus y gall Cymru sgorio am y tro cyntaf o dan ei arweiniad yn y g锚m ragbrofol yn erbyn Serbia yn Novi Sad nos Fawrth.

Y golled o 2-0 yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd nos Wener oedd y pedwerydd tro yn olynol i Gymru fethu 芒 sgorio.

Yn dilyn y canlyniad, mae llawer o'r farn bod rhaid i Gymru ennill oddi cartref yn erbyn Serbia er mwyn cadw'u gobeithion yn fyw o gyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014, er mai dim ond un g锚m sydd wedi ei chwarae.

"Mae gennym chwaraewyr sy'n medru creu a rhai sy'n medru sgorio," meddai Coleman.

"Fe wnawn ni sgorio, ac roeddwn i'n meddwl y bydden ni'n gwneud hynny yn erbyn Gwlad Belg."

Gyda Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen - a fethodd y g锚m nos Wener oherwydd salwch ond mae disgwyl y bydd wedi gwella - mae gan Gymru'r creadigrwydd i agor unrhyw amddiffyn.

Seicolegol

Ac fe ddywed Coleman ei fod yn hapus gyda'r cyfleoedd y mae ei d卯m yn eu creu, ac mai mater o amser yw hi tan y byddan nhw'n llwyddo i fanteisio arnynt.

"Roedd ein tair g锚m ddiwethaf yn erbyn timau da iawn, sef Mecsico, Bosnia a Gwlad Belg, a'r unig berfformiad oedd ddim wedi fy mhlesio oedd yr un yn erbyn Bosnia," ychwanegodd Coleman.

"Ond wrth gwrs fe all fynd yn beth seicolegol os ydych chi'n mynd am hir hen ganfod cefn y rhwyd.

"Felly mae'n rhaid i ni fynd i Serbia, perfformio fel y gwnaethon ni yn erbyn Gwlad Belg, a rhoi'r b锚l yn y rhwyd - rydym yn gwybod hynny."

Dechreuodd Serbia eu hymgyrch nhw gyda g锚m gyfartal ddi-sg么r yn erbyn Yr Alban, ac mae'r capten Aaron Ramsey yn sicr y gall Cymru greu trafferthion i'w gwrthwynebwyr.

"Roedd llawer o bethau positif yn erbyn Gwlad Belg, ac ar noson arall efallai y byddai ambell benderfyniad gan y dyfarnwr wedi mynd o'n plaid a ninnau yn medru manteisio ar hynny.

"Fe wnaethon ni'n dda am gyfnodau hir yn y g锚m, ac fe wnawn ni gofio hynny nos Fawrth yn erbyn Serbia."

Carfan Cymru: v. Serbia; Novi Sad, nos Fawrth, Medi 11.

Golgeidwaid: Jason Brown (Aberdeen), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace).

Amddiffynwyr: Darcy Blake (Crystal Palace), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Ben Davies (Abertawe).

Canol cae: Joe Allen (Lerpwl), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Leicester City), Aaron Ramsey (Arsenal, capt), Jonathan Williams (Crystal Palace), David Vaughan (Sunderland).

Blaenwyr: Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich City), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Robert Earnshaw (Caerdydd).