Rhybudd am fwriad Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd
Mae Eden Hazard wedi dweud mai dyma gyfle gorau Gwlad Belg i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2014 cyn i'w wlad herio Cymru yng Nghaerdydd nos Wener.
Arwyddodd y chwaraewr canol cae 21 oed gytundeb gwerth 拢32m gyda Chelsea ym mis Mehefin.
Bydd Gwlad Belg yn chwarae yn erbyn Cymru cyn wynebu Croatia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
"I'r wlad a'r cefnogwyr mae'r ddwy g锚m yn hollbwysig," meddai Hazard.
"Gyda'r garfan sydd gennym ni, fe ddylen ni fedru gwneud rhywbeth - dyma'r cyfle."
Mae ymhlith nifer o chwaraewyr Gwlad Belg sy'n ennill eu bara menyn yn Uwchgynghrair Lloegr ac mae sawl un wedi cael dechrau gwych i'r tymor newydd.
Ffefrynnau
Mae'n ddegawd ers i Wlad Belg gyrraedd un o brif gystadleuthau p锚l-droed ond mae'r disgwyliadau'n uchel y tro hwn gyda chwaraewyr fel Thomas Vermaelen (Arsenal), Jan Vertonghen (Spurs), Marouane Fellaini (Everton), Vincent Kompany (Manchester City) a Hazard ei hun.
Mae buddugoliaeth o 4-2 yn erbyn Yr Iseldiroedd ym mis Awst wedi tanlinellu'r ffaith mai Gwlad Belg yw'r ffefrynnau yng Ngr诺p A, yn enwedig gan fod Cymru yn dal i aros am y fuddugoliaeth gyntaf o dan reolaeth Chris Coleman.
Roedd Coleman yng ngharfan Cymru y tro diwethaf i'r ddau d卯m gwrdd yn 1997. Yr ymwelwyr oedd yn fuddugol o 2-1.
Dywedodd rheolwr Cymru: "Rydym yn gwybod y byddwn ni'n wynebu t卯m cryf iawn o Wlad Belg."
"Mae llawer o'u chwaraewyr yn yr uwchgynghrair ac yn perfformio'n dda ond mae'n well gen i siarad am ein t卯m ni.
"Mae gennym ni ein cryfderau ac mae gennym ni rywbeth i'w gynnig i'r gr诺p, yn sicr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2012
- Cyhoeddwyd31 Awst 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012