91Èȱ¬

Cynllun £25m i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cynlluniau Sain FfaganFfynhonnell y llun, St fagans
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y cynlluniau y mwya uchelgeisiol yn hanes yr Amgueddfa

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) wedi cyhoeddi'r grant mwyaf erioed yng Nghymru, i gynorthwyo Amgueddfa Cymru i ddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ymhellach.

Bwriad y buddsoddiad o £11.5 miliwn yw eu helpu i adrodd straeon o fywyd pobl yng Nghymru dros gyfnod o dros 200,000 o flynyddoedd.

Mae £6 miliwn arall wedi ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r arian yn gymorth i'r Amgueddfa ddatblygu cynllun Creu Hanes sy'n werth £25 miliwn.

Bwriad y cynllun dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt yw sefydlu Sain Ffagan fel Amgueddfa Hanes Genedlaethol Cymru.

Mae apêl hefyd yn cael ei lansio ar gyfer codi'r £7.5 miliwn, gyda thua £2.5 miliwn i ddod o ffynonellau busnes.

Adyfwio

Ar hyn o bryd mae Sain Ffagan yn adrodd hanes sut oedd pobl Cymru yn byw, gweithio a threulio eu hamser hamdden dros y 500 mlynedd diwethaf.

Bydd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys codi adeilad amlbwrpas gydag oriel a gofod gweithgareddau, ffenestr i'r archeoleg awyr agored a chyfleusterau cyffredinol i ymwelwyr yn cynnwys caffi.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw gweld cynnydd o 25% o ymwelwyr

Cafodd y cynlluniau i adfywio'r amgueddfa eu cyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Ionawr.

Mae dros 600,000 o bobl yn ymweld â'r atyniad ar gyrion Caerdydd bob blwyddyn.

Ymhlith yr atyniadau eraill fydd ail-greu setliad Bryn Eryr, Ynys Môn o'r Oes Efydd ac un o lysoedd Tywysogion Gwynedd, Llys Rhosyr.

I sicrhau'r weledigaeth fe fydd Apêl £1 yr Amgueddfa yn cael ei lansio i ddwyn cefnogaeth y cyhoedd.

Mae'n adlais o alwad sefydlydd yr amgueddfa, Iorwerth Peate, yn 1946 am gefnogaeth.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, eu bod yn ddiolchgar i'r Gronfa Dreftadaeth am y cyllid.

Adrodd stori

"Byddwn yn dechrau gweithio ar brosiect mwyaf cyffrous erioed Amgueddfa Cymru yn fuan iawn.

Ffynhonnell y llun, St fagans
Disgrifiad o’r llun,

Bydd adeilad newydd yn adrodd hanes Cymru ar hyd y canrifoedd

"Gyda'r gefnogaeth hael â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, byddwn yn creu sefydliad cenedlaethol arall i Gymru.

Dywedodd y bydd gan Gymru ei Hamgueddfa Hanes Cenedlaethol ei hun a fydd yn adrodd stori pawb yng Nghymru, o'r gorffennol i'r presennol.

"Wrth i ni gychwyn ar y datblygiad mawr mwyaf yn yr amgueddfa ers ei chreu, rydym yn gofyn i bobl Cymru unwaith eto gefnogi ein cynlluniau i greu profiad amgueddfa unigryw i genedlaethau i ddod," ychwanegodd.

"Bydd rhodd o £1, o'i ychwanegu at roddion o ledled Cymru yn ein caniatáu i gyflawni ein gweledigaeth a chaniatáu i ymwelwyr barhau i fwynhau Sain Ffagan yn y dyfodol."

Yn ôl Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor CDL Cymru, mae'r prosiect yma yn sicrhau fod pobl Cymru ac ymwelwyr yn cael profiad gwirioneddol ysbrydoledig a chofiadwy gyda stori beth a wnaeth ein gwlad yr hyn yw heddiw.

"Bydd 'Creu Hanes' yn dod yn brosiect enghreifftiol i ni, gan arddangos sut y gall arian y loteri gael effaith positif ar dreftadaeth, datblygiad economaidd, twristiaeth, adfywio a sgiliau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91Èȱ¬ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol