Sain Ffagan ar frig atyniadau
- Cyhoeddwyd
Yn 么l arolwg cylchgrawn defnyddwyr Which?, mae hoff atyniad ymwelwyr y DG yng Nghymru.
Yn gynharach yn y flwyddyn fe gafodd dros 3,000 o ddefnyddwyr y cylchgrawn eu holi am yr atyniadau yr oedden nhw wedi ymweld 芒 nhw.
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ger Caerdydd ddaeth i'r brig.
Yr amgueddfa oedd y gyntaf yn yr adran Amgueddfeydd ac Orielau Celf yn ogystal 芒'r hoff atyniad.
Oherwydd iddi gael 90% o ran sg么r boddhad roedd yn un o bum atyniad i dderbyn statws Argymhelliad Which?
Y pedwar arall oedd Sw Caer, Sw Colchester, Gerddi Botaneg Brenhinol Caeredin a Chastell Leeds yn Sir Caint.
Yn 么l yr amgueddfa, Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru ac mae dros 600,000 o ymwelwyr yn mynd yno yn flynyddol.
'Cydnabyddiaeth'
"Rydym wrth ein boddau fod y cyhoedd wedi ein dewis ni ar gyfer y wobr hon sy'n cadarnhau ein safle pwysig wrth galon yr arlwy i ymwelwyr ym Mhrydain," meddai Bethan Lewis, Pennaeth Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
"Rydym yn ymfalch茂o yn ein digwyddiadau amrywiol ac yn safon ein cyfleusterau ac mae'n gydnabyddiaeth o waith caled ein holl staff.
"Mae'n gyfnod hynod brysur inni yn Sain Ffagan; erbyn diwedd y flwyddyn mi fyddwn wedi cwblhau nifer o atyniadau newydd gan gynnwys T欧 Masnachwr Tuduraidd, Cytiau Lloi o'r 19eg ganrif a Gweithdy Clocsiwr o'r 20fed ganrif.
"Rydym hefyd yn gweithio ar gynlluniau manwl i drawsnewid y profiad ymwelwyr a sefydlu Sain Ffagan yn gartref i hanes Cymru."
Mae'r Amgueddfa'n cynnwys dros 40 o adeiladau sydd wedi'u symud o bob cwr o Gymru a'u hail-godi ar diroedd Castell Sain Ffagan.
Cafodd 3,001 o bobl eu holi ar gyfer yr arolwg dros y ddwy flynedd diwethaf.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o wobrau ymwelwyr i'r Amgueddfa eu hennill.
Yn 2010, dewisodd defnyddwyr gwefan ryngwladol TripAdvisor, Sain Ffagan yn un o'r 10 safle gorau i ymweld 芒 nhw am ddim yn y DU ac ym mis Gorffennaf eleni, enwodd defnyddwyr netmums.com Sain Ffagan fel y lle gorau i fynd iddo am ddim yn y de ddwyrain.