Dim lefel O, medd gweinidog
- Cyhoeddwyd
Fydd arholiadau lefel O ddim yn cael eu hail-gyflwyno yng Nghymru, medd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, yn ystyried cael gwared ar gymhwyster TGAU a dychwelyd i'r hen ddull o arholi.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r system gymwysterau.
"Yr hyn sydd angen yw system y mae rhieni, disgyblion a phobl fusnes yn ei deall," meddai Mr Andrews wrth 91热爆 Radio 5 Live.
2014
"Y ffordd ymlaen yw eu hadolygu'n drylwyr nid cyhoeddi er mwyn denu sylw papurau newydd."
Gallai newidiadau Mr Gove, y rhai mwya pellgyrhaeddol ers cenhedlaeth, gael eu cyflwyno erbyn hydref 2014.
Mae'r manylion wedi dod i sylw'r Daily Mail.
"Fe fyddwn ni'n penderfynu ein cynlluniau ar sail y dystiolaeth," meddai Mr Andrews.
Lleihau
Mae'r adolygiad yn ystyried a ddylai cymwysterau newydd ar gyfer disgyblion rhwng 14 a 16 oed fod yn lle'r drefn bresennol neu a ddylai Cymru ddilyn patrwm Lloegr.
Hefyd mae'n ystyried lleihau'n sylweddol nifer y cymwysterau ar gael.
Ar hyn o bryd mae 6,500 yn cael eu dysgu mewn ysgolion a cholegau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012
- Cyhoeddwyd13 Mai 2012
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012