Cyhoeddi marciau Llywodraeth Cymru i ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae 91热爆 Cymru wedi cyhoeddi union farciau pob ysgol uwchradd yng Nghymru, hynny yw sail system fandio ddadleuol Llywodraeth Cymru.
Ac mae'r wybodaeth yn rhoi manylion pellach i rieni am safle ysgol eu plant yn y system fandio.
Ers Rhagfyr 2011 fe gafodd ysgolion eu gosod o fewn un o bum band.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu'r marciau unigol oherwydd cais 91热爆 Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Sg么r orau
Yr ysgol 芒'r sg么r orau yw Ysgol Tryfan ym Mangor - cafodd yr ysgol y marc uchaf ymhob un o'r 12 adran sy'n rhan o'r system fandio.
Mae'r rhain yn cynnwys perfformiad mewn arholiadau ond hefyd welliant, presenoldeb a'r nifer o blant sy'n cael cinio am ddim.
Ysgol yr Esgob Gore yn Abertawe sy'n ail gydag Ysgol y Dyffryn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn drydedd.
Yr ysgol gyda'r marciau isaf yw Ysgol Uwchradd Llanrhymni yng Nghaerdydd, Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ac Ysgol Gymunedol Daniel James yn Abertawe.
Mae mwyafrif yr adrannau yn ystyried gwelliant ysgol dros gyfnod o amser.
Angenrheidiol
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod y system fandio gyhoeddodd ym mis Rhagfyr yn angenrheidiol er mwyn adnabod a thargedu ysgolion oedd angen y cymorth mwyaf er mwyn gwella.
Ond dywedodd nad oedd y system yn cyfateb i dablau cynghrair nac yn "fodd i enwi a chodi cywilydd ar ysgolion gwan".
Mae disgwyl i ysgolion yn y band uchaf rannu eu llwyddiant a helpu datblygu dulliau gwell mewn ysgolion eraill.
Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r system i dargedu adnoddau yn yr ysgolion sydd eu hangen.
Mae'r bandiau ysgolion yn cael eu diweddaru bob blwyddyn ac mae bandio ysgolion cynradd ar y gweill.
Mae bandiau ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru wrthi'n cael eu paratoi ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012