91热爆

Un o brifysgolion Caerdydd yn cael enw newydd

  • Cyhoeddwyd
Campws UWIC LlandafFfynhonnell y llun, 91热爆 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Brifygsol y byddai enw Uwic yn parhau yn rhan o'r brandio

Mae gan un o brifysgolion de Cymru enw newydd.

O Dachwedd 1 fe fydd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd yn cael ei hadnabod fel Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Ym mis Hydref fe wnaeth y sefydliad wrthod cais i uno gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.

Mewn datganiad dywedodd fod y brifysgol yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair gyda'r myfyrwyr yn ganolbwynt i'r sefydliad.

Gall y sefydliad olrhain ei hanes yn 么l i 1865 pan agorodd Yr Ysgol Gelf yn Adeilad Hen Lyfrgell Am Ddim Caerdydd ar Heol Eglwys Fair.

Ym 1996 daeth yn un o golegau Prifysgol Cymru.

Graddau

Mae 11,000 o fyfyrwyr o dros 125 o wledydd yn mynychu'r brifysgol sy'n cynnig dros 100 o gyrsiau i israddedigion.

Ym mis Hydref cyhoeddodd gynlluniau i ail-frandio gan ddweud mewn e-bost wrth staff a myfyrwyr y byddan nhw'n dymuno cael yr hawl i gyflwyno eu graddau eu hunain.

Daeth y penderfyniadau yn sgil helyntion Prifysgol Cymru.

Fe wnaeth ymchwil gan 91热爆 Cymru ddatgelu sgandal fisas yn ymwneud a staff yn un o'r colegau niferus oedd yn bartner i Brifysgol Cymru.

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi dweud bod brand Uwic mor adnabyddus fel y byddai'n cael ei gynnwys yn yr enw newydd am y tro.

"Drwy ddelio gyda'r broses yn fewnol rydym wedi gallu cadw costau ail-frandio yn is," meddai'r brifysgol.

"Rydym yn edrych ymlaen ar gyfer dyfodol newydd o dan enw newydd, yn brifysgol gre' gan ganolbwyntio ar y myfyrwyr, ar ddyfodol llewyrchus i Gaerdydd a de ddwyrain Cymru yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol