Ymchwilio i brynu cymwysterau
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth Ffiniau'r DU wedi lansio ymchwiliad wedi i 91热爆 Cymru ddatgelu cynllwyn lle mae myfyrwyr tramor yn cael cymorth i gael graddau a theithebau ffug i ddod i'r DU.
Ym mis Ebrill 2012, bydd trwyddedau gwaith arbennig i 么l-raddedigion yn cael eu diddymu.
Mae myfyrwyr sydd angen cael gradd er mwyn cael trwydded cyn y dyddiad hwnnw yn medru prynu cymwysterau sy'n arwain at radd prifysgol yn y DU.
Bu'r 91热爆 yn gweithio'n gudd i ddangos marchnad mewn diplomas 么l-radd sy'n cael eu defnyddio i gofrestru ar gyfer cyrsiau MBA, ac yn golygu nad oes rhaid gwneud dau draean o'r gwaith.
Bwriad y cynllwyn yw troi myfyrwyr ffug yn raddedigion er mwyn medru gwneud cais am deitheb (visa) i weithio ar 么l eu haddysg.
'Twyll'
Cadarnhaodd gweinidog mewnfudo llywodraeth y DU, Damien Green, fod yr Asiantaeth Ffiniau yn ymchwilio i'r mater.
"Mae'n dwyll," meddai, "ac yn amlwg yn ceisio creu a manteisio ar fwlch yn rheolau'r sustem mewnfudo.
"Rydym yn ymwybodol o'r ymchwiliad yr ydych chi wedi ei wneud.
"Os oes pobl wedi bod yn twyllo, yna fe ddylen nhw fod yn bryderus - rydym ar eu h么l nhw."
Mae ymchwiliad rhaglen Week In Week Out 91热爆 Cymru wedi arwain at wahardd tri aelod o staff Coleg Rayat Llundain o'u gwaith - coleg sy'n cynnig cyrsiau MBA Prifysgol Cymru.
Mae ffilmio cudd yn awgrymu fod myfyrwyr yn cael cynnig y cyfle i wneud cyrsiau MBA cyflym sy'n defnyddio diplomas ffug er mwyn osgoi llawer o'r gwaith.
Mae tystiolaeth hefyd o gynllun i gynnig i fyfyrwyr gael gweld papur arholiad swyddogol Prifysgol Cymru o flaen llaw.
Gwadu
Mae ffilmio cudd yn dangos un o ddarlithwyr y coleg, Surya Medicherla, yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ar sut i dwyllo mewn arholiadau, a sut i dwyllo Asiantaeth Ffiniau'r DU.
Dywedodd Mr Medicherla wrth 91热爆 Cymru nad oedd hi'n fwriad ganddo dangos i fyfyrwyr sut i dwyllo.
Mae Cofrestrydd Coleg Rayat Llundain, Irvin Harris, hefyd yn gyd-gyfarwyddwr cwmni sy'n cynnig cymwysterau arholiad - Professional Qualifications Management Limited (PQML).
Mae gan y 91热爆 dystiolaeth fod cynllwyn ganddo yn cynnwys cynnig cynnal arholiadau lle gall myfyrwyr dwyllo er mwyn cael cymhwyster ddylai gymryd 15 mis o fewn wythnos.
Mae Mr Harris yn gwadu iddo annog pobl i dwyllo, ac nad yw'n gyfrifol am ymddygiad y darlithydd, Surya Medicherla.
Mae'n gwadu unrhyw honiadau o gamymddwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Rayat Llundain fod y darlithydd, y cofrestrydd a'r swyddog derbyn i gyd wedi eu gwahardd o'u gwaith.
Ychwanegodd fod y coleg am ddatgysylltu ei hun oddi wrth unrhyw gamymddwyn, a'u bod wedi cyfeirio'r mater at yr heddlu.
Dywedodd PQML eu bod yn sefydliad dilys gyda pholis茂au cadarn ar arholi a marcio, a'u bod yn gwadu bod yn rhan o'r materion sy'n destun ymchwiliad.
Embaras
Mae'r bennod yn debyg o achosi embaras pellach i Brifysgol Cymru wedi i ymchwiliad blaenorol gan 91热爆 Cymru ddatgelu coleg ym Malaysia oedd yn cynnig cyrsiau'r brifysgol yn cael ei redeg gan seren bop oedd a dwy radd ffug.
Ddydd Llun, cyhoeddodd Prifysgol Cymru y byddai'n rhoi'r gorau i ddilysu graddau o sefydliadau eraill, gyda'r Is-Ganghellor newydd, yr Athro Medwin Hughes, yn dweud fod hynny'n ymateb i newidiadau mewn addysg uwch yng Nghymru.
Yn dilyn adroddiad beirniadol yn gynharach eleni, dywedodd Prifysgol Cymru y byddai'n adolygu bob un o'u partneriaethau.
Ond fe gafodd Coleg Rayat Llundain ei archwilio ym mis Gorffennaf eleni - ychydig cyn i ymchwiliad diweddara'r 91热爆 ddechrau - ac fe benderfynodd y brifysgol ddilysu eu cyrsiau am bum mlynedd arall.
Dywedodd Prifysgol Cymru eu bod wedi cyfeirio'r honiadau yn y rhaglen at Heddlu De Cymru, Heddlu Metropolitan Llundain ac Asiantaeth Ffiniau'r DU.
Ychwanegodd na fyddai'n briodol i wneud sylw pellach.
Diploma heb waith
Mewn cynllwyn ar wah芒n, llwyddodd un o ohebwyr y 91热爆 i brynu diploma 么l-radd gan ddarparwr cymwysterau arall heb wneud unrhyw waith.
Mae cofnodion yn dangos bod y gohebydd wedi cwblhau holl unedau'r cwrs ac wedi mynychu coleg preifat yn Llundain am naw mis er na fu ar gyfyl y lle.
Mae'r cwmni gynigiodd y cymhwyster, ATHE, wedi cael eu gwahardd gan y corff sy'n ei reoli ac wedi cael ei wahardd rhag cynnig tystysgrifau a chofrestru myfyrwyr newydd - newid sy'n debyg o gael effaith ar gannoedd o fyfyrwyr a cholegau a phrifysgolion eraill ar draws y DU.
Wedi cael y diploma, cafodd y gohebydd ei chyfeirio at goleg arall oedd yn cynnig gradd MBA Prifysgol Cymru oedd yn fodlon derbyn y cymhwyster.
Cofrestrodd y gohebydd ar y cwrs gydag addewid na fyddai'n rhaid cwblhau pedwar neu bump o'r chwe uned oedd yn rhan o'r MBA, ac fe gafodd wybod fod y cwrs wedi ei gynllunio i gael ei gwblhau mewn pryd i wneud cais am deitheb gwaith 么l-radd.
Dywedodd llefarydd ar ran ATHE eu bod nhw hefyd wedi dechrau ymchwiliad, ac wedi torri cysylltiad gyda dau goleg sy'n ymddangos ar y rhaglen.
Bydd rhaglen 'Week In Week Out: Cash For Qualifications' yn cael ei darlledu ar 91热爆 1 Cymru ar nos Fawrth Hydref 5 am 10:30pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2011