91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Ias yn y Plas

GeraintMae mwy nag arddangosfa Gelf a Chrefft ym Mhlas Margam yr wythnos hon. Mae'r Plas urddasol, sy'n edrych i lawr dros faes yr Eisteddfod yn gartref i nifer o ysbrydion hefyd.



Nid fi sy'n dweud, ond Geraint 'Snakesman' Hopkins. Ac fe ddylai e wybod, mae wedi treulio nifer fawr o nosweithiau yn y Plas, ac mae ganddo lawer o straeon i'w hadrodd.

Aeth 芒 mi ar daith o gwmpas y Plas a'r gerddi i ddangos lle mae'r trigolion cudd yn celu.

O'r Ddynes Lwyd i Fynach, i fachgen bach, mae yna nifer fawr o stor茂au gan Geraint, am y Plas a'r gerddi godidog o gwmpas i godi gwallt eich pen.

"Dw i wedi aros yn yr holl lefydd sydd ag ysbrydion, ond alla i ddweud yn onest mai Ty Margam yw'r un mwya spooky dw i wedi aros ynddo," meddai Geraint gan restri y mannau gwahanol yn y Plas lle mae wedi dod wyneb yn wyneb ag ysbryd.



Charlotte's Pantry"Mae yna ysbryd yn y Charlotte's Pantry, mae sawl un sydd wedi ymweld 芒'r Plas yma yn dweud wrtha i eu bod nhw wedi gweld y forwyn yn y caffi yn cerdded trwy'r wal yn cario tray", meddai Geraint.

Plas yn rhoi ias
Mae Geraint a'i bartner Yolande o Lanelli, wedi trefnu nifer o nosweithiau codi ofn ar bobl ym Mhlas Margam dros y blynyddoedd, ond mae Geraint ei hun yn honni iddo gael ofn go iawn, pan welodd y Wraig Lwyd, a hynny yn crwydro mewn sawl lleoliad yn y Plas. Ac ni oedodd cyn dangos i mi, o'r grisiau i'r twr a nifer i stafell fawr oer - yn ogystal 芒'r stafell fawr lle mae'r brif arddangosfa Gelf a Chrefft!

"Y Gray Lady yw'r ysbryd mwya spooky dw i wedi ei weld," meddai Geraint. "Dw i wedi ei gweld hi mewn sawl lleoliad o gwmpas y Plas. Mae hi yn edrych yn scary, achos mae yn edrych fel person go iawn, mewn period costume. Mae'n rhaid i fi gyfaddef geso i ofn pan weles i hi."



Chapter HouseO'r Plas i'r gerddi
Ond nid yn y Plas yn unig mae'r ysbrydion yn celu, meddai Geraint. Os fuoch chi'n crwydro gerddi anhygoel Margam, yr Orendy a'r Chapter Houseneu'r Eglwys, yna mi allech chi fod wedi dod wyneb yn wyneb 芒 Mynach mewn gwisg ddu yn troedio trwy'r goedwig, meddai Geraint.

"Dw i a Yolande a criw o bobl wedi aros fan hyn sawl tro, ac un bore tua 5 o'r gloch, roedd hi'n olau dydd, fe welon ni ddyn yn gwisgo du yn cerdded trwyddo," meddai Geraint yn frwdfrydig iawn.

A weloch chi rywbeth od o gwmpas y Maes?

Gan : Elin Wyn Davies



Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy