Yn yr awyr iach a Thir na n-Og
Am y tro cyntaf erioed yn hanes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bydd un o sioeau'r Wyl yn cael ei pherfformio yn yr awyr agored.
Bydd Jiwdas, sioe ysgolion uwchradd bro'r Eisteddfod, i'w gweld ym Mharc Gwledig y Gnoll, ger Castell-nedd.
Seiliwyd y sioe gerdd hon yn fras ar hanes Jiwdas Iscariot a'i gyswllt ef 芒 bywyd a marwolaeth Iesu Grist.
Fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yn 1979 gan Gwmni Theatr Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru gyda'r gerddoriaeth wedi ei hysgrifennu gan Delwyn Si么n, ac enwau fel Stifyn Parri ac Elfed Dafis ymysg y cast.
Cafwyd cynhyrchiad arall ohoni yn 1991 gan Ysgol Gyfun Ystalyfera ac eleni yr ysgol honno sydd unwaith eto yn hawlio'r llwyfan, gyda'r cyfarwyddwr artistig Laurel Davies, Pennaeth Drama a Chyfadran Fynegiannol yr ysgol, wrth y llyw.
Trefnwyd y gerddoriaeth gan Aled Madoc ac ymysg y 100 o gast sydd yn y sioe, yn chwarae rhan Jiwdas yn y sioe mae Aled Pedrick, disgybl ym Mlwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a wyneb cyfarwydd fel enillydd sioe dalent S4C, Ar y Bocs a chystadleuydd ar C芒n i Gymru eleni. Fe'i perfformir ar y nos Sul a nos Lun cyntaf yr Eisteddfod (25 a 26 o Fai).Mae gennym d卯m ymroddedig iawn sydd wedi bod yn gweithio ar y sioe ers misoedd, yn aelodau o adrannau drama, celf, cerddoriaeth a chwaraeon yr ysgol.
Mae'r disgyblion sy'n cymryd rhan, o flwyddyn 7 i 11, wedi rhoi dau gant y cant i'r cynhyrchiad ers y cychwyn cyntaf, meddai Laurel Davies.
Addasu Nia Ben Aur Nia Ben Aur- un arall o glasuron y saithdegau - fydd sioe y plant ieuengaf eleni wedi ei haddasu gan Rhiannon Rees o Frynaman.
"Dyma wledd gerddorol sy'n siwr o godi'r to yn y Pafiliwn a chyda chast anferth o 160 o ddisgyblion o ysgolion cynradd ardal Port Talbot, Castell-nedd ac Afan, bydd y sioe yn gyfle gwych i bawb fwynhau a gweld talent ifanc yr ardal," meddai llefarydd ar ran yr Urdd.
Cymerodd Rhiannon, sy'n awr yn byw yng Nghaerdydd, hoe o'i gwaith fel cyfarwyddwr ar Pobol y Cwm i gyfarwyddo'r sioe.
Nia Ben Aur o Dir na n-Og oedd y ferch harddaf welodd Osian erioed meddai un o ganeuon mwyaf poblogaidd y sioe hon.
Mae'r plant yn dwli ar y sioe. Yn y b么n stori serch syml ond hyfryd iawn yw hi am ddyn sydd moyn man gwyn, man draw. Mae'n stori gyfoes iawn sy'n sefyll yn ddi-amser, ac felly yn apelio at bob oedran, ac mae'r caneuon a'r melod茂au yn syml iawn ac mae'r plant wrth eu boddau yn eu canu, meddai.
Cyfarwyddwr cerdd y sioe yw Elfair Jones, gyda Steffan Morris (Osian), Ania Davies (Nia) a Glesni Euros (y Frenhines Ri) ymysg y cast ifanc.
Noddir Nia Ben Aur gan gwmni Corus a'r Post Brenhinol, a bydd y sioe yn cael ei llwyfannu nos Fercher a nos Iau, Mai 28 a 29.
Hefyd bydd fideos o'r sioe ar werth.
Yn ystod yr wythnos hefyd, bydd cyfle i fwynhau cyngerdd mawreddog yng nghwmni corau meibion yr ardal a Fflur Wyn ac Angharad Brinn, a'r cystadlaethau C芒n Actol, Drama, Cerddorfeydd ac Aelwydydd. Bydd yr wythnos yn cloi gyda Chymanfa Ganu i godi to Capel Tabernacl Pontardawe dan arweiniad Alun Tregelles Williams.
Nosweithiau llawn manylion am brif weithgareddau gyda'r nos Margam:
Jiwdas (Sioe Ysgolion Uwchradd) 25, 26 Mai, 8.00 y.h, Parc y Gnoll (perfformiad awyr agored)
Cystadlaethau C芒n Actol, 26 Mai yn y Pafiliwn am 6.30 y.h
Cyngerdd Corau Meibion, gyda Fflur Wyn ac Angharad Brinn, 27 Mai, 7.30y.h yn y Pafiliwn
Cystadlaethau Drama, 26 - 29 Mai, 7.00y.h, Canolfan Celfyddydau Pontardawe.
Nia Ben Aur (Sioe Ysgolion Cynradd), 7.30 y.h 28, 29 Mai yn y Pafiliwn
Cystadleuaeth Cerddorfeydd, 30 Mai am 7.30 yn y Pafiliwn
Cystadlaethau Aelwydydd, 31 Mai, yn y Pafiliwn
Cymanfa Ganu, 1 Mehefin, Capel Tabernacl Pontardawe am 6.00 y.h. Arweinydd - Alun Tregelles Williams, Organydd - D.Huw Rees
Am fwy o fanylion neu i archebu tocynnau ffoniwch Swyddfa'r Eisteddfod ar y Maes ar 01639 885 974.
|