Awdl Irac yn ennill cadair i heddychwr
Cerdd ddychan, am y rhyfel yn Irac enillodd y gadair i Ifan Prys o Landwrog, ddydd Iau, yn Eisteddfod yr Urdd, a hynny am y trydydd tro.
Gan fod Ifan wedi ennill y Gadair dair gwaith yn yr Urdd bellach, mae rheolau Eisteddfod yn ei atal rhag cystadlu yn y gystadleuaeth hon eto, ac felly mae'n falch iawn iddo gyflawni'r gamp cyn ei bod yn rhy hwyr.
Mae'r wefr o ennill yn aros bob tro, er efallai iddo deimlo'n fwy cyfforddus, ac yn llai nerfus ar y llwyfan yn ystod y seremoni ddydd Iau, meddai.
Awdl ryfel
Yn wahanol i'r disgwyl efallai, nid helbulon y diwydiant dur, a gweithfeydd Corus a ysgogodd Ifan Prys i fynd ati i ysgrifennu cerdd o dan y teitl 'Dur'. Cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu wrth ddilyn adroddiadau o ryfel Irac ar y newyddion.
"Wnes i drio peidio ysgrifennu am y gweithfeydd dur. R'on i'n hwyr iawn yn mynd ati i ysgrifennu -pythefnos cyn y dyddiad cau, ac erbyn hynny doedd dim byd ond helbulon Irac yn y newyddion, felly d'on i'n methu sgrifennu am ddim byd arall, a dweud y gwir, meddai Ifan Prys.
Ac fel bardd sy'n adnabyddus am gael barn gref, ac ysgrifennu cerddi gwleidyddol a dychanol, dydi'r awdl 'Dur' ddim yn eithriad.
"Mae gen i farn bendant, a bydda i'n licio dweud rhywbeth yn fy ngherddi. Dw i yn heddychwr, wrth edrych ar y newyddion dros y diwrnodau diwetha, a gweld bod y rhesymau dros y rhyfel wedi newid cymaint, mae'n anghredadwy beth sydd yn mynd ymlaen yno," meddai Ifan Prys wrth fynd ati i ddisgrifio cynnwys ei awdl.
Cerdd ddychan
"Mae'n dechrau gyda chadwyn o englynion dychan, lle dw i'n awgrymu, ond dw i ddim yn enwi, bod George Bush a Tony Blair fel plant yn chwarae 芒 thegannau, ac mae'r rhyfel fel g锚m iddyn nhw," meddai Ifan.
Ond nes ymlaen yn y gerdd, nid g锚m ydi o, ac mae yna gywydd yn disgrifio'r tanciau a'r milwyr. Erbyn y diwedd dw in trio rhesymegu'r peth.
Stwff stomp
Er bod Ifan Prys yn ysgrifennu llawer am bynciau dwys, mae wrth ei fodd yn sgrifennu ar gyfer nosweithiau stomp a thalwrn y beirdd hefyd.
Dw i'n licio ysgrifennu pethau reit ysgafn sy'n neud i bobol chwerthin.
Does dim cynlluniau pendant gan Ifan Prys o beth fydd ei brosiect nesaf, ond dyna ddywedodd y llynedd hefyd!
Mae Ifan Prys ar hyn o bryd yn dilyn cwrs Ymarfer Dysgu ym Mhrifysgol Bangor, ac yn edrych ymlaen at wyliau'r haf er mwyn cael dychwelyd i wersyll Glan Llyn ger y Bala, lle mae'n hyfforddi yn ystod yr haf.