| |
Chwedlau'r ardal
Mae bro Eisteddfod yr Urdd 2003 yn un gyfoethog ei hanes a'i chwedlau. Er enghraifft, wyddech chi hyn . . .?
1. Wrth ddynesu at Gastell-nedd o gyfeiriad Abertawe disgrifiodd George Borrow yn Wild Wales simneiau mawrion yn chwydu mwg du i'r awyr er mai'r Sul oedd hi. Yng nghyffiniau olion Mynachlog Nedd gwelodd dir corslyd gyda phyllau o ddwr du fel huddugl a'r tir wedi ei halogi a chopr gan wneud iddo feddwl, meddai, am Sabath yn Uffern.
2. Ger yr allor yn eglwys Llangynwyd mae bedd Ann Maddocks, y Ferch o Gefn Ydfa, a fu farw o dor-calon ar 么l cael ei gorfodi i briodi twrnai yn hytrach na'i gwir gariad, Wil Hopcyn, gwerinwr cyffredin na chredai ei rhieni ei fod ddigon da iddi. Yn glaf o serch cyfansoddodd yntau y g芒n serch, Bugeilio'r Gwenith Gwyn.
3. Ym mhentref Pontrhydyfen ger Castell-nedd y ganwyd Richard Burton, y deuddegfed o dri ar ddeg o blant.
4. Croes Geltaidd fechan sy'n nodi bedd Richard Lewis, Dic Penderyn, yn Eglwys Fair, Aberafan. Crogwyd ef yng Nghaerdydd yn esiampl i eraill am ei ran yng nghythrwfl Merthyr yn 1831 er nad oes dim tystiolaeth iddo wneud unrhyw ddrwg. Ei eiriau olaf - yn Gymraeg - oedd, "O Dduw, dyma anghyfiawnder."
5. Enwyd Porth Talbot ar 么l Christopher Rice Mansel Talbot a ddisgrifiwyd fel gwerinwr (commoner) cyfoethocaf Prydain. Yn aelod seneddol ef oedd Tad Ty'r Cyffredin yn 1874.
6. Treuliodd Theodore Mansel Talbot, mab Christopher Talbot, y rhan fwyaf o'i oes yn gweithio ymhlith y tlodion yn slymiau Llundain. Chwaer Theodore, Olivia Emma, sefydlodd goleg diwinyddol Sant Mihangel yn Llandaf, Caerdydd.
7. Yn Grynwr argyhoeddedig ni fyddai Joseph Tregelles Price (1784-1854) yn caniatau i ddim y gellid ei ddefnyddio mewn rhyfel gael ei gynhyrchu yn ei waith haearn yng Ngwm Nedd. Ef oedd sefydlydd y Gymdeithas Heddwch y bu Henry Richard, yr Apostol Heddwch, yn ysgrifennydd iddi. Brwydrodd Price hefyd i ddileu caethwasaeth a bu iddo ran amlwg yn yr ymgyrch aflwyddiannus i ryddhau Dic Penderyn.
8. Heddiw y mae hedfanwyr crog yn codi ar eu hadain oddi ar gaer o Oes yr Haearn, Mynydd y Castell, ym Mharc Margam.
9. Sefydlwyd abaty Sistersaidd ym 1147 gan fab siawns i'r brenin Harri'r Cyntaf, Robert Gloucester, ym Margam.
10. Orendy Margam yw'r enghraifft orau o dy gwydr ym Mhrydain. Fe'i cynlluniwyd yn 1787 gan Anthony Keck. Yn 330 troedfedd o hyd nid oedd ond 30 troedfedd o led fel y gallai'r goleuni dreiddio i bob cornel.
11. Pan ymwelodd Nelson ag orendy Margam rhoddodd driswllt o gildwrn i'r garddwr a edrychai ar 么l y coed oren a lemwn. Heddiw defnyddir yr orendy ar gyfer cyngherddau, addangosfeydd a chynhadleddau.
12. Christopher Rice Mansel Talbot oedd y tirfeddiannwr mwyaf ym Morgannwg yn ei ddydd. Ei long hwyliau y Lynx oedd yr un gyntaf i hwylio drwy gamlas Suez.
13. Er i Christopher Talbot fod yn aelod seneddol am am 59 o flynyddoedd yn ddi-dor dywedir mai dim ond unwaith y siaradodd yn y senedd a hynny i ofyn i rywun gau ffenestr i'w arbed rhag gwynt oer.
14. Yr oedd John Dillwyn Llewelyn o Abertawe y tynnwr lluniau o bwys cyntaf yng Nghymru. Dechreuodd ar ei yrfa yn 1839 yn tynnu lluniau creigiau ar y traeth ym Mae Caswell a lluniau o'r teulu yn cael picnics. Treuliodd lawer o'i amser yn arbrofi gyda'r camera ym Mharc Margam. Yr oedd y Frenhines Victoria ymhlith y rhai oedd yn casglu ei luniau.
15. Y mae dwy gamlas a dwy afon yn cyfarfod yn Aberdulais ger Castell-nedd. Hynny sydd wrth wraidd y llysenw lleol, Fenis yn y glaw!
16. Disgrifwyd Abertawe fel "y dref hyll hyfryd" (ugly, lovely town) gan Dylan Thomas a anwyd yno.
17. Trin copr oedd prif ddiwydiant yr ardal hon yn y ddeunawfed ganrif ond yn fuan iawn daeth mwynau eraill i'w trin yn y fro.
18. Ger Abertawe yr agorwyd purrfa olew gyntaf gwledydd Prydain. Yr oedd hynny yn 1918.
19. Y mae Ystumllwynarth yn cael ei adnabod fel Oystermouth yn Saesneg.
20. Dywedir bod ysbryd Nest, merch Elidir Ddu, yn dal i gerdded Pont y Gwendraeth ger Cydweli. Y mae ei hanes hi yn stori garu ryfeddol. Syrthiodd Syr Walter Mansel o Fargam mewn cariad 芒 hi er bod ei chyfneithr Gwladys mewn cariad ag ef. Hefyd yn gwrthwynebu carwriaeth Walter a Nest yr oedd Griffith, brawd Nest, a oedd ei hun mewn cariad 芒 Gwladys. Heb weld unrhyw obaith ennill Gwladys saethodd ef Walter drwy ei galon 芒 saeth ar glogwyn uwchben y m么r gan beri i Nest daflu ei hun i'r dwfn ar 么l Walter.
21. Daeth Porthcawl i boblogrwydd fel cyrchfan wyliau i weithwyr diwydiannol y de. Canodd R. Williams Parry: Mae ynys yn y Barri, Ac awel ym Mhorthcawl, A siwrnai yn y siarri I rai a fedd yr hawl Yn ei delyneg, Haf Y Glowr.
22. Collodd Porthcawl y frwydr i fod yn borthladd glo prysur i'r Barri.
23. Bu R. D. Blackmore, awdur Lorna Doone yn aros yn yr ardal ar gyfer sgrifennu The Maid of Sker.
24. Syr Leslie Joseph (1908-92) a roddodd Borthcawl ar y map trwy ddatblygu Coney Beach a Bae Trecco.
25. Er bod y m么r chwarter milltir i ffwrdd mae'r llanw yn effeithio ar Ffynnon Sant Ioan ger Porthcawl mewn ffordd ryfeddol. Pan fo'r m么r ar drai mae'r ffynnon yn llawn ond pan yw'n llanw mae'r ffynnon bron yn wag!
26. Claddwyd Walter Coffin a fu farw yn 1867 ym mynwent capel yr Undodiaid, Penybont-ar-Ogwr. Yn un o arloeswyr y diwydiant glo yn y Rhondda dywedwyd ei fod yn berchen popeth ym mhentref Dinas "ar wah芒n i eneidiau'r dynion".
27. Yr oedd Abertawe yn dal yn bentref pysgota yn y 1700au.
28. Credir mai Scruffs ym Mhontycymer yw'r ganolfan gwerthu barcud fwyaf yn Ewrop.
29. Y mae canolfan arbennig sy'n gwarchod adar sydd wedi eu cam-drin neu eu niweidio ym Mharc Margam.
30. Mae rhyw 340 o geirw yn crwydro 500 erw o dir ym Mharc Margan. Mae ceirw yn gysylltiedig 芒'r ardal ers dyddiau'r Rhufeiniaid ac yr oedden nhw'n niferus iawn yno adeg y Normaniaid.
31. Ymhlith y cerrig yn amgueddfa feini Margam y mae carreg filltir Rufeinig a maen hir gyda cerfiadau ogam.
32. Y mae cyrsiau ystlumod yn cael eu cynnal ym Mharc Margam. Dro'n 么l darganfyddwyd ystlumod prin Barbastella a Nathusius Pipistrelle yno.
33. Daguerreotype o Gastell Margam a dynnwyd gan y Parchedig Calvert Richard Jones ym Mawrth 1841 yw'r ffotograff Cymreig cynharaf y gwyddom amdano. Mae'n un o'r delweddau pwysicaf yn hanes ffotograffiaeth.
34. Ymwelodd y Cadfridog Eisenhower 芒 Margam i fwrw golwg dros y 28th Infantry Division ychydig cyn ymosodiadau D Day.
35. Yng Nghronicl Margam yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif y datgelwyd i Arthur gael ei gladdu yn Glastonbury.
|
|