| |
Cychwyn ar nodyn gobeithiol
Mae'r Urdd ar frig ton ac wedi troi cornel o gymharu a'r argyfwng yr oedd y mudiad yn ei wynebu ddwy flynedd yn 么l.
Dyna neges galonogol Cyfarwyddwr yr Urdd ar gychwyn wythnos o steddfota ym Mharc Margam.
Dywedodd Jim O'Rourke i'r ymgyrch godi arian yn ardal Tawe, Nedd ac Afan, fod yn hynod o lwyddiannus gyda mwy na'r nod leol o 拢100,000 gael ei godi.
Hefyd, denodd yr eisteddfod fwy o nawdd nag erioed o'r blaen yn ei hanes - 拢200,000.
Ond ychwanegodd Mr O'Rourke na fu'r fenter heb ei thrafferthion.
"Dydi hi ddim wedi bod yn flwyddyn hawdd ac yr ydym wedi cael ergydion ar y ffordd," meddai gan gyfeirio at rai noddwyr fel BP a gollwyd.
Ond daeth eraill i gymryd eu lle ychwanegodd a'r gobaith yn awr yw y byddan nhw yn parhau i noddi Eisteddfodau'r dyfodol.
Yng nghynhadledd gyntaf yr Eisteddfod ar gyfer y Wasg yr oedd y pwyslais ar hyn sy'n gwneud yr Eisteddfod hon yn un wahanol i'r arfer.
Un datblygiad diddorol yw fod gan yr Urdd ei fenter baratoi bwyd ei hun ar y maes, Caffi Mr Urdd yn cael ei staffio gan dros 70 o weithwyr cegin y mudiad.
Dywedodd Eurig Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith i'r ymateb fod yn dda yn barod gydag ysgolion wedi bod yn archebu pecynnau bwyd.
Cyfeiriodd Eurig Davies hefyd at y gwahaniaeth aruthrol ym maint yr Eisteddfod o gymharu 芒 phan ymwelodd ddiwethaf 芒'r ardal hon ugain mlynedd union yn 么l.
"Mae'r Wyl wedi tyfu'n sylweddol dros yr ugain mlynedd," meddai gan ychwanegu y bydd 100,000 o bobl wedi ymweld 芒 hi erbyn diwedd yr wythnos.
"Mae'r cyfan wedi bod yn her aruthrol gydag ugain o bwyllgorau lleol wedi bod yn codi arian," meddai.
Yr oedd yn weithgarwch meddai a dynnodd y Cymraeg a'r di-Gymraeg at ei gilydd.
"Fe gawson nhw bleser drwy baratoi gweithgarwch wrth i'r gymdeithas gael ei thynnu at ei gfilydd," meddai.
"Mae'r ysgolion di-Gymraeg hefyd wedi bod yn gwneud eu rhan a dangoswyd llawer iawn o ewyllys da," meddai.
O ran iaith mae bro'r Eisteddfod yn un o wahaniaethau mawr gyda'r siaradwyr Cymraeg yn 75% o'r boblogaeth yn y rhan orllewinol ond cyn ised a phedwar y cant yn y rhan ddwyreiniol.
Talodd ef a Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd deyrnged i'r cydweithrediad a gafwyd gan Gyngor Castell-nedd a Phorth Talbot a gynrychiolwyd yn y gynhadledd gan y prif swyddog datblygu addysg, Alan Richards.
"Yr ydym yn addo profiad eang a chyfdoethog i bobl ifanc yn ystod yr wythnos hon," meddai.
|
|