| |
Radio Cymru ar y Maes
Mae 91热爆 Radio Cymru yn darlledu tair rhaglen o'r Eisteddfod bob dydd - dau rifyn o'r rhaglen O'r Maes, am 10.30am a 2.00pm, pan fydd criw Radio Cymru yn cyflwyno holl fwrlwm a gweithgareddau'r Eisteddfod.
Yn y bore bydd Hywel Gwynfryn a Nia Lloyd Jones yn dod 芒'r cystadlu'n fyw o'r llwyfan tra bydd Dafydd Du ac Owain Gwilym yn busnesu o gwmpas y maes ac yn cyflwyno'r cystadlaethau roc. Byddent i gyd yn dod 芒 hwyl y cystadlu, cip ar y beirniadu a blas o'r naws y tu 么l i'r llwyfan.
Bob prynhawn bydd ymweliad 芒 stiwdio Radio Cymru ar y maes yn Sioe Pnawn Yr Urdd (Dydd Llun 1.05pm, gweddill yr wythnos, 1.15pm). Owain Gwilym a Dylan fydd yno gydag amryw o artistiaid sef Rhydian Bowen Phillips ar Ddydd Llun, Martin John ar Ddydd Mawrth; Pheena ar Ddydd Mercher; Meinir Gwilym a'i brawd ar Ddydd Iau a Bryn F么n, Eleri F么n a Lowri Mererid ar Ddydd Gwener. Ar Ddydd Sadwrn, Mai 31, bydd Epitaff yn gwneud set acwstig i gloi'r dathliadau.
Bydd rhaglenni O'r Maes yn y prynhawn yn dod 芒 defod y fedal lenyddiaeth, medal y dysgwyr, y fedal ddrama, a defod cadeirio a'r coroni yn fyw i gartrefi pawb sydd yn methu bod yn yr wyl ei hun.
Mae Nia Lloyd Jones a Hywel Gwynfryn yn hen bartneriaid erbyn hyn yn Eisteddfod yr Urdd. Yn wir, ni fyddai yr un Eisteddfod yn gyflawn bellach heb o leiaf un cip ar Hywel yn gwibio o gylch y maes, pac ar ei gefn, ffonau am ei glustiau a meicroffon o dan ei drwyn. Ond bu cyfnod pan oedd yntau yn crynu yn ei glos pen-glin o flaen beirniaid eisteddfodol.
"Es i mor bell 芒'r Eisteddfod Sir un tro," meddai Hywel, "yn adrodd darn gan R Williams Parry. Roedd yna linell pa sentimentaleiddio, ond mi ddywedes i pa smentimentaleiddio Es i dim pellach."
|
|