Rhyddhad i ferch y Fedal
Rhyddhad oedd y prif emosiwn a deimlodd Nia Peris wrth iddi godi i ganiad yr utgyrn yn Seremoni y Fedal Lenyddiaeth yn y Pafiliwn, ddydd Llun.
Ar 么l pythefnos o gnoi ei thafod, roedd y ferch 24 oed, syn wreiddiol o ddyffryn Nantlle yn falch i gael dweud mai hi oedd enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Tawe, Nedd ac Afan, 2003.
Enillodd Nia Peris y Fedal Lenyddiaeth am ei chyfrol Cyfarwydd, sydd yn gasgliad o farddoniaeth a straeon byrion.
"Mae'n deimlad gwych i fod wedi ennill, a medru dweud wrth bobl. Roedd hi'n anodd iawn mynd i mewn i'r gwaith a pheidio dweud fy holl hanes, fe dw i fel arfer yn gwneud!" meddai Nia Peris, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Bethan yn cynnig cyngor
Er nad oes un dylanwad amlwg ar y gyfrol hon, meddai Nia Peris, mae'n cyfaddef bod y cyrsiau a fynychodd yng Nghanolfan Ty Newydd yn Llanystumdwy wedi bod o gymorth mawr iddi, a chyngor yr awdures Bethan Gwanas yn arbennig.
"Dw i'n cofio mynd i gwrs yn Nhy Newydd efo Bethan Gwanas, a dywedodd wrthon ni am ysgrifennu am bethau cyfarwydd i ni. Felly dw i wedi sgrifennu amdanaf fy hun yma a dweud y gwir, a ddim sgrifennu am bethau mawr oesol."
Tensiwn y ddinas a chefn gwlad
"Dw i'n byw yng Nghaerdydd ers pedair blynedd, ac mi dw i'n ymwybodol iawn o'r tensiwn sy'n bodoli pan mae pobl yn gadael y cymunedau Cymraeg. Mae yna lot amdanaf fy hun yn y gyfrol, a dw i'n tynnu ar bethau teuluol, ond dydi hynny ddim yn amlwg i'r rhai sydd ddim yn gyfarwydd 芒 ni."
Eleni yw'r flwyddyn olaf y gall Nia Peris gystadlu yn yr Urdd, ac yr oedd yn benderfynol o ennill y fedal, ar 么l dod yn ail yn y gystadleuaeth hon yn 1999. Mae'n gobeithio mynd ymlaen i sgrifennu rhywbeth hirach y tro nesa, gan obeithio mentro ar nofel, o bosib, meddai.
Beirniaid wedi eu plesio
Yr oedd dau feirniad y gystadleuaeth wedi eu plesio gyda'r safon eleni.
"Roedd y safon yn uchel iawn, ond roedd Peredur Lynch, fy nghyd-feirniad a finne yn cytuno'n syth taw Meillionenoedd yn haeddu'r Fedal," meddai Si芒n Thomas.
Mae Nia yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Groeslon ac yna Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes. Dilynodd gwrs Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a graddiodd yn 1999.
Mae hi bellach yn olygydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn dilyn cwrs MA rhan amser, mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Bangor.