91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Cymru, Cyd-ddyn - Cydfyw . . .

 Branwen Niclas  ac Adrian JohnAp锚l am i arweinyddion y gwledydd ddod at ei gilydd er mwyn sicrhau heddwch yn y byd oedd yn wyth degfed neges ewyllys da yr Urdd a gyhoeddwyd o brif lwyfan Prifwyl Margam ddydd Mercher.



Daeth ap锚l hefyd oddi wrth gadeirydd y gweithgor a luniodd y neges am i unigolion ymuno a'i gilydd er mwyn sicrhau tecwch a heddwch yn y byd.

Lluniwyd y neges gan weithgor o ieuenctid Ysgol Gyfun Gwyr ac hyd yn oed cyn y seremoni ddydd Mercher yr oedd disgyblion o'r ysgol wedi teithio i Lundain i gyflwyno'r neges i aelodau seneddol a Tony Blair.

Mae'r neges mewn deg iaith i gyd gan gynnwys Arabeg am y tro cyntaf ac mewn gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar Fai 20 yr oedd dros 500 o bobl ifainc yn bresennol.

Dywedodd Adrian John, cadeirydd y gweithgor a luniodd y neges, eu bod o'r farn mai diffyg cyd-fyw sydd wrth wraidd problemau fel rhyfel, rhagfarn a hiliaeth yn y byd.

"Sail cyd fyw llwyddiannus yw cyfathrebu a siarad; felly ymbiliwn ar arweinyddion y byd i wrando a thrafod cyn gweithredu," meddai'r neges.

Mewn cynhadledd i'r wasg cyn cyhoeddi'r neges ar lwyfan Margam dywedodd Adrian John: "Trwy gyfuno ein ffydd fel unigolion y gwneir gwahaniaeth ac nid drwy sefyll yn unigol."

Cymorth Calcutta
Yn cael ei chysylltu 芒'r neges eleni mai ymgyrch gan Gymorth Cristnogol law yn llaw a'r Urdd ymhlith merched difreintiedig yn Calcutta.

Mae cysylltiad agos rhwng pobl ifainc o Gymru a'r ymgyrch honno ac ym mis Medi bydd chwech o aelodau'r Urdd yn ymweld 芒'r cynllun meddai Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol.

"Mi fyddan nhw'n cael cyfle i weithio ymhlith merched sydd wedi cael eu camdrin yn ystod eu blynyddoedd cynnar ac wedi eu hachub o'r stryd a'r diwydiant rhyw," meddai gan ychwanegu fod y gwaith yn Calcutta "yn brosiect arloesol iawn iawn."

Mae'r cysylltiad rhwng yr Urdd a Calcutta yn mynd yn 么l i 2001 ac ers cyhoeddi'r ymgyrch bu eros 200 o ymweliadau ag adran nau ac Aelwydydd yr Urdd a chasglwyd 拢6,200.



Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy