91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
'Medal Tryweryn' i ddysgwr

Jack PriceStori fer a cherdd am Dryweryn a enillodd y Fedal i Ddysgwyr, i Jack Price yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth.



Gwylio rhaglen ddogfen ar S4C am foddi ardal yng nghanolbarth Cymru a ysbrydolodd Jack Price, o Wrecsam, i ysgrifennu'r deunydd a gafodd ganmoliaeth fawr ar lwyfan yr Urdd. Wrth wylio'r rhaglen hon, fe gysylltodd y profiad 芒 hanes Thryweryn, ger y Bala yn y chwedegau, a phenderfynu ysgrifennu am hynny ar gyfer y gystadleuaeth.

"Fe wnes i wylio'r rhaglen yma ac o'n i'n ymwybodol pa mor bwysig oedd hanes boddi Tryweryn yn y chwedegau i'r Cymry, a'i fod yn symbol i ni, ac felly r'on i eisiau ysgrifennu rhywbeth am hyn."

Dim Cymraeg ar yr aelwyd
Er bod Jack Price, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, yn astudio'r Gymraeg ar gyfer Lefel A yng Ngholeg I芒l, Wrecsam ar hyn o bryd, nid yw erioed wedi cael y cyfle i siarad Cymraeg ar yr aelwyd na chyda'i ffrindiau agosaf.

Mae ei deulu wedi colli eu Cymraeg ers cenedlaethau, ond mae un o'i neiniau yn deall Cymraeg, ond yn methu siarad llawer o'r iaith gyda Jack.

"Mae fy Nain yn falch fy mod yn dysgu'r Gymraeg ond mae'n ei ffeindio yn reit rhyfedd dw i'n meddwl, fy mod i'n astudio a siarad Cymraeg."

Colli allan heb y Gymraeg
Ond mae Jack Price wedi ymddiddori yn y Gymraeg, er pan oedd yn blentyn, meddai, pan oedd yn mynd ar wyliau gyda'i deulu.

"Dw i wedi bod yn ymwybodol o'r Gymraeg ers pan o'n i'n fach, yn mynd ar wyliau i ardaloedd traddodiadol Gymreig. O'n i'n teimlo fy mod wedi colli allan heb y Gymraeg, ac am wneud rhywbeth am y peth."

"Pan o'n i ym mlwyddyn naw, penderfynais fy mod yn gallu neud rhywbeth, a bod hi'n bosib i mi drio dysgu."

Ar wah芒n i'r gwersi ysgol, mae Jack wedi dysgu Cymraeg iddo'i hun yn bennaf, meddai, trwy wylio'r teledu, gwrando ar y radio a darllen.

Dyfodol Cymraeg - gobeithio

Mae Jack Price am fynd i Brifysgol Cymru Aberystwyth i astudio'r Gymraeg ar 么l gorffen ei Lefel A, ac yn gobeithio y bydd yn cael ei dderbyn i'r gymdeithas Gymraeg glos sydd yno.

"Mae yna berygl os ydych chi'n symud i fyw i ardaloedd Cymraeg, os ydych chi'n siarad Cymraeg fel ail iaith, nad ydych chi wastad yn cael eich derbyn, ond dw i'n gobeithio y byddaf i'n cael fy nerbyn yn Aberystwyth."

Fe gafodd Jack Price brofiad annifyr, meddai pan aeth ar ddiwrnod agored i Brifysgol Cymru Bangor, pan wnaeth rhywun ei gywiro am siarad Saesneg.

"R'on i ym Mangor ac yn siarad Saesneg, achos roedd fy nhad gyda fi, ond fe wnaeth rhywun fy nghywiro i."

Mae Jack yn gobeithio gweithio fel cyfieithydd ar 么l graddio, meddai.

Beirniaid yn canmol

"Cafwyd cerdd angerddol a rhagorol, a stori fer a oedd yn gyfoeriog o ddisgrifiadau cynnil, gyda chymeiriadu effeithiol iawn," meddai Rhiannon Lloyd a Robat Powell y beirniaid.



Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy