Coron driphlyg i ferch Medal Ddrama
Roedd Luned Emyr, enillydd y Fedal Ddrama ddydd Mercher yn teimlo'n gyfforddus iawn ar y llwyfan yn ystod y seremoni. Dyma'r trydydd tro iddi gael ei anrhydeddu yn Brif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Enillodd Luned, o Gaerdydd , y Fedal yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan ym 1999, ac yng ngwyl yr Urdd yn 2001.
Cwrs creadigol yn ysbrydoli
Cafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu drama fuddugol eleni, monolog o'r enw Ystafell Dywyll, pan oedd ar gwrs wyth mis yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Ebeltoft, yn Nenmarc, meddai.
Mae'n lle creadigol iawn, coleg rhyngwladol ydi e, ac roedd pobl o 27 o wledydd yno. Roedd gen i ffrindiau ar y cwrs oedd wedi bod yn byw yn Barcelona, Paris a Llundain, ac yn s么n am eu profiadau o fyw ar eu pennau eu hunain. Wnaeth hyn wneud i mi feddwl, beth allai ddigwydd i chi os ydych chi'n byw ymhell i ffwrdd ar eich pen eich hun, meddai Luned yn disgrifio ychydig ar gynnwys y ddrama.
Stori merch sydd yma, sydd wedi gadael Cymru ers peth amser ac yn byw ar ei phen ei hun yn Llundain, ac yn marw o gancr ar yr ysgyfaint. Does dim un thema iddi, a dw i'n gobeithio y bydd hyn yn agored i'r gynulleidfa.
Gweld gobaith yn nyfodol y ddrama
Er mai sgriptio ar gyfer rhaglenni dogfen a ffilmiau byrion yr oedd Luned gan fwyaf yn Nenmarc, mae dal yn gweld y ddrama fel cyfrwng yn werthfawr iawn gan edrych yn bositif ar ddyfodol y ddrama Gymraeg.
Dw i'n teimlo'n eitha positif. Mae yna le i wella, ond mae pethau yn sicr yn gwella yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n beth gr锚t i weld datblygiadau fel y Cwmni Theatr Cenedlaethol a Chanolfan y Mileniwm ac ati.
Monolog yn herEr bod Luned Emyr yn hen law ar ysgrifennu dram芒u, ac ar gyfer y teledu, mae'n cyfaddef bod ysgrifennu monolog wedi bod yn dipyn o her iddi ar gyfer y gystadleuaeth eleni.Dyma'r fonolog hir gynta i fi sgrifennu, ac mi r'on i'n ymwybodol o'r her! meddai.
Mae Luned yn gweithio ar liwt ei hun ar hyn o bryd, yn cyd-sgriptio gyda'i ffrind Richard Martin, yn ysgrifennu ffilm a rhaglenni dogfen. Mae Luned Emyr hefyd wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer y gyfres Tipyn o Stad o S4C, ac mae dwy ffilm o'i gwaith wedi eu cynhyrchu ar gyfer y teledu.