91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Cyflwyno Llywyddion y Dydd

Ymhlith llywyddion yr Urdd eleni mae un a brofodd hunllef jyngl I'm a Celebrity, un arall a fu'n gweithio gyda'r Gladiator - ac un a anfarwolodd y Cwm




Abigail Sara
Mae Llywydd dydd Llun yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.

Ers ei dyddiau yn Ysgol Gynradd Bryn y M么r yn Abertawe ac yn Ysgolion Gwyr ac Ystalyfera, mae Abigail Sara wedi cipio peth wmbreth o wobrwyon yn yr Eisteddfod.

Abigail SaraYn canu, adrodd, canu cerdd dant ac alaw werin a siarad cyhoeddus, roedd hi'n dod i'r brig yn gyson.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Abertawe a Lliw 1993, hi enillodd Ysgoloriaeth yr Eisteddfod a bu hefyd yn cynrychioli'r Urdd mewn gwyliau plant a phobl ifanc ym Malta a Bwlgaria.

Graddiodd mewn Mathemateg yng Ngholeg Crist, Caergrawnt ac mae'n awr yn gyfrifydd newydd ddechrau yn Rheolwr Adroddiadau Ariannol gyda'r RAC.

"Mae'r Urdd wedi gwneud cymaint i fi er pan oeddwn i'n fychan - wedi rhoi pob math o gyfleoedd i mi, a'r hyder i wneud pethau newydd. Dwi'n defnyddio'r sgiliau ddysgais i gyda'r Urdd bob dydd."

Catrin EvansCatrin Evans
Magwyd Catrin Evans, Llywydd dydd Mawrth, yng Nghlydach, Cwmtawe. ysgol yn Ysgol Gymraeg Pontardawe ac yna Ysgol Gyfun Ystalyfera. Graddiodd wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn Ffrangeg a Sbaeneg.

Mae hi'n awr yn byw yn Abertawe gyda'i gwr, Rob, a'u merch fach 15 mis oed, Rosa Melangell.

Mae Catrin yn gweithio i gwmni Tinopolis yn Llanelli, yn gynhyrchydd ar Wedi Saith.

Bu'n cystadlu fel unigolyn ac mewn part茂on a grwpiau yn Eisteddfod yr Urdd a'r tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ddod i ardal Port Talbot yn 1983 roedd hi'n rhan o d卯m siarad cyhoeddus buddugol Ysgol Ystalyfera.

Meddai Catrin "Mae'n wych i weld yr Eisteddfod yn yr ardal eto - mewn lleoliad cystal 芒 Margam.

"Mae cymoedd Tawe, Nedd ac Afan wedi newid tipyn yn ystod y ddau ddegawd diwethaf - does dim ond rhaid edrych ar y crebachu fu ar y gwaith dur welir o faes yr Eisteddfod i fod yn ymwybodol o'r newid fu mewn patrwm cyflogaeth. Newid cadarnhaol fu y datblygiad mewn addysg cyfrwng Gymraeg yn yr ardal, a'r ewyllys da tuag at yr iaith, gan bobl beth bynnag eu cefndir. Mae Cymru'r dyfodol yn un aml-ddiwylliannol. Fe ddylem gofleidio'r amrywiaethau hyn a gwneud yn siw^r fod mudiadau fel yr Urdd yn para i gyflwyno diwylliant Cymraeg mewn ffordd gyfoes berthnasol."

Huw Chiswell
Mae Huw Chiswell, Llywydd dydd Mercher, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pant Teg ac Ysgol Gyfun Ystalyfera, roedd yn aelod brwd o'r Urdd drwy gydol ei ddyddiau ysgol. Mae'n cofio cael llwyfan "cwpwl o weithie" pan oedd e'n ifanc iawn, a chafodd lwyddiant yn y gwaith cartref droeon hefyd.

" Gyda'r Urdd ges i fy mhrofiad cyntaf o berfformio'n fyw ac mae hyn wedi rhoi hyder i fi fynd mlaen a datblygu fy niddordeb yn y maes."

Yn ogystal 芒 bod yn un o Lywyddion y dydd, mae cysylltiad arall gyda Huw Chiswell 芒'r Eisteddfod eleni. Comisiynwyd yr arlunydd, David Carpanini o Flaengwynfi, i greu darlun yn seiliedig ar y g芒n boblogaidd Huw, Y Cwm.

Mae'r darlun yn dwyn y teitl - Wyt ti'n cofio nawr, meddwl bo ni'n fechgyn mawr - ac yn dangos pedwar o gymeriadau pentref glofdaol.

Betsan Rees
Mewn cystadlaethau celf y daeth Betsan Rees, Llywydd dydd Iau, i'r brig.

"Dyna rwy'n meddwl sy'n wych am yr Urdd... roeddwn i, oedd ddim yn academaidd iawn yn yr ysgol, yn ffeindio mas, drwy'r cyfleoedd mae'r Urdd yn ei cynnig, fod gen i dalent mewn maes arall. Mae pawb yn cael cyfle gyda'r Urdd," meddai.

Mae'n cofio cymryd rhan mewn gweithdai celf yn Eisteddfod yr Urdd flynyddoedd yn 么l a Llywydd arall yr wythnos hon, Si芒n Lloyd, yn dod i weld yr arddangosfa ac yn dewis darn o waith Betsan fel ei ffefryn.

"Si芒n Lloyd wnaeth fy narganfod i fel artist!" meddai Betsan sydd 芒 gyrfa lwyddiannus ym myd propiau, setiau a gwisgoedd yn y cyfryngau ac wedi gweithio i Playstation, Legoland, S4C (gan gynnwys gweithio ar greu Tecwyn y Tractor).

Mae hi hefyd wedi gweithio ar ffilm enfawr Gladiator gyda Russell Crowe.

Phyl Harries
Mae wyneb Phyl yn gyfarwydd i ddilynwyr Amdani, ac mae cyfres arall o'r ddrama boblogaidd yn cael ei ffilmio nawr. Roedd hefyd yn un o gast y sioe Nia Ben Aur y gwanwyn yma a dywedodd ei fod yn falch fod plant y fro yn perfformio'r sioe honno yn yr eisteddfod eleni.

Yn yr hydref mae'n gobeithio bod yn rhan o gynhyrchiad y Wales Theatre Company o Under Milk Wood.

"Gall Cymru ymfalch茂o yn yr Urdd, yn ein Fame Academy ni ein hunain. Mae cymaint o bobl wedi llwyddo yn y byd perfformio yng Nghymru diolch i Fame Academy yr Urdd," meddai.Ar hyn o bryd mae mewn cynhyrchiadau o Merchant of Venice a A Winter's Tale yn y Ludlow Theatre Festival.

Sian Lloyd
Yn 么l o antur fawr I'm a Celebrity... get me out of here! Bydd Sian Lloyd yn edrych ymlaen at gyffro o fath gwahanol ym Margan yr wythnos hon.

"Roedd yr Urdd yn bwysig iawn, yn enwedig i rywun fel fi sy'n dod i deulu di-Gymraeg," meddai Si芒n a enillodd goron yr Urdd yn Llanelli yn 1975.


Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy