| |
Can mil a mwy o ymwelwyr
Ymwelodd dros gan mil o bobl ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mharc Margam yr wythnos diwethaf yn 么l ffigurau swyddogol yr Urdd.
Disgrifwyd yr Wyl fel "llwyddiant ysgubol".
"Yn ogystal 芒'r Eisteddfodwyr arferol, heidiodd miloedd o bobl leol i fwynhau atyniadau'r maes, a daeth cannoedd o bobl ddi-Gymraeg drwy'r giatiau yn ogystal," meddai datganiad a gyflwynwyd i'r Wasg.
Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod, dydd Llun gwyliau'r banc, ymwelodd rhyw with mil yn fwy nag arfer 芒'r eisteddfod ac ar un adeg y diwrnod hwnnw yr oedd 70% o'r rhai oedd yn dod drwy'r giatiau yn ddi-Gymraeg.
Erbyn diwedd yr wythnos yr oedd 101,968 wedi ymweld a'r Eisteddfod.
Yn 么l yr Urdd bus awl arbrawf llwyddiannus; yn fwyaf arbennig cynnal y rhagbrofion ar y maes a Chaffi Mistar Urdd.
Ni fu unrhyw drafferthion trafnidiaeth.
Yn y prif seremoniau yr oedd dau o'r enillwyr yn fuddugol am y trydydd tro, Luned Emyr, Medal Ddrama ac Ifan Prys, y gadair ddydd Iau.
Meddai Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Dw i wrth fy modd yn gallu cyhoeddi inni gael Eisteddfod wych mewn safle mor unigryw a delfrydol, sydd wedi ein hysbrydoli. Dw i'n ddyledus i Eurig Davies, Cadeirydd ein Pwyllgor Gwaith lleol a'i d卯m, am eu hymroddiad a'u cefnogaeth ddiwyro.
"Mae cydweithrediad staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Phort Talbot dros y tair blynedd diwethaf wedi cyfrannu'n arw tuag ar lwyddiant yr Eisteddfod.
Ychwanegodd Eurig Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Rydan ni wedi palmantu'r ffordd ar gyfer Eisteddfodau'r dyfodol.
|
|