91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Urdd 2003
O'r Maes
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Steddfod y bocs

Hywel GwynfrynDyddiadur Steddfod Hywel Gwynfryn
"Mewn sawl steddfod da chi di bod yn darlledu?"
Dyna'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn i mi amla' ar faes steddfod.

A'r ateb? Un- ond bod hi'n un hir, yn ymestyn o'r chwedegau tan rwan. A dwi di treulio y rhan fwya' ohonyn nhw mewn bocs- y bocs-yn y pafiliwn.

Mae hi mor gyfforddus yn y bocs ag y basa hi mewn sauna yn gwisgo siwt, c么t. het a sgarff.Ydi mae hi'n boeth! Ond mae'r olygfa yn wych.

Da chi bron yn nho'r pafilwin yn edrych i lawr ar y llwyfan ac yn gweld y cyfan- o ben moel Gari Owen i'r ddynes yn y cefn sydd ar ei hail frechdan ham.

Be sydd yn y bocs? Wel bwrdd hir, tri meicroffon, un monitor teledu, a chwmni difyr. A'r wythnos yma dwi'n cael cwmni Rhiannon Lewis, y Cowntes of Cwmann, sydd fel Gwyddoniadur Eisteddfodol ar ddwy goes;

Aled Hall, y tenor rhygwladol, direidus, a gafodd y drydedd wobr ar y cerdd dant un flwyddyn, a Bryn Terfel yn ennill.

Ella mai Steddfod '83 oedd hi. Dyna pryd y daeth Steddfod yr Urdd i'r ardal yma ddwytha, ac fe enillodd Bryn dair gwobr gynta y flwyddyn honno-fel y daru Steffan Hughes o Ysgol Twm o'r Nant eleni.

Ffagots Mistar Urdd
Heddiw dydd Gwener - fe fydd y gantores Opera Bethan Dudley yn eistedd wrth fy ochor ac yn dal fy llaw yn gerddorol.

Hywel Gwynfryn'Da ni yno o hanner awr wedi deg tan bump o'r gloch ar wahan i dorriad am ginio ( ac fe allai argymell ffagots Caffi Mistar Urdd efo lot o grefi, a brecwast Dolen.

Wel mae'n rhaid cadw'r ddesgil fwyd yn wastad, yn enwedig gan fod Sion a Tomos, y ddau hogyn cw, wedi bod yn gweithio i'r Cwmni drwy'r wythnos.)

Safon yn codi a'r oedran yn disgyn
Mae'r cynhyrchydd yn siarad yn un glust, y parti cerdd dant yn canu yn y glust arall a'r drws tu cefn i chi'n agor a llaw yn cynnig gwybodaeth am y gystadleuaeth nesa, tra bo Llywydd y Dydd yn trio dod o hyd i rywle lle gall o eistedd i lawr ynghanol yr holl flerwch.

Heddiw fe glywson ni offerynwyr anhygoel eu safon, safon sy'n codi o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r safon yn codi a'r oedran yn disgyn. Roedd na un hogyn leni yn chwara'r chello, fel tasa fo mewn cyngerdd yn yr Albert Hall, a dim ond un ar ddeg oed oedd o.

Nefi Bliw! Pan oni'n un ar ddeg fedrwn i ddim codi cello heb son am chwara un.

(Roedd fy nhad yn awyddus iawn i mi ddysgu'r chello ond roeddwn i mor llwyddiannus a'r ddynes honno y cyfeiriodd Malcolm Sarjeant ati "Madam" medda fo "Between your legs you have an instrument, that could give pleasure to millions. Please play it, and stop sitting there scratching it.")

Ddoe fe gawson ni weld cadeirio Ifan Prys am y trydydd tro, a chlywed detholiad o'i gerdd rymus o, ar y testun Dur oedd yn dychan ac yn beirniadu penderfyniad Blair a Bush i fynd i ryfel.

Pa iaith?
Ac fe welson ni, a chlywed yn ystod yr wythnos, g么r yn canu un pennill mewn Swahili, neu pa bynnag iaith oedd hi, parti dawnsio disgo yn dawnsio i g芒n oedd yn cynnwys pennill mewn Cernyweg.

Fe glywyd yr iaith Eidaleg, a'r Sbaeneg yn ystod Y Neges Heddwch ac un parti llefaru yn mynd mor bell a dweud "O! God" yn ystod eu perfformiad.

Gwae! Gwae! Gwae! Mae hi ar ben ar yr iaith Gymraeg.

Ac mae'n rhaid i minnau gyfaddef i mi dorri'r rheol Gymraeg drwy ddweud "Trumpet Concerto" yn lle "Concerto i'r trwmped."
Mae'n wir ddrwg gin i, Mistar Urdd.

Edrych ymlaen at y bocs nesa
Mae gin i ddau ddiwrnod eto yn y bocs- ac yna am ddeg o'r gloch nos Sadwrn fe fyddai'n cau caead y bocs am flwyddyn arall. Ond wyddoch chi be, wedi clywed can jazz Gareth Glyn a Meirion Macyntyre Huws yn ystod Dirprwyaeth Steddfod M么n, - dwi'n edrach ymlaen yn barod at gamu i mewn i'r bocs ar yr Ynys, y flwyddyn nesa'



Cefndir
Chwedlau'r ardal

Arlwy'r wythnos

Y Steddfod ar y wal

Maes godidog

Yn yr awyr iach a Thir na n-Og

lluniau'r wythnos
Brasgamu ym Margam (1)

Brasgamu ym Margam (2)

Brasgamu ym Margam (3)

Brasgamu ym Margam (4)

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau o'r Eisteddfod

Lluniau dydd Mercher

Lluniau dydd Iau

Arddangosfa Celf a Chrefft

Lluniau Crysau-T

Lluniau dydd Gwener

Lluniau dydd Sadwrn

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy