| |
Draig Ffynci ar Faes yr Urdd
Bydd cyfle i bobol ifanc ddweud eu barn a rhannu syniadau am wleidyddiaeth Cymru yn Eisteddfod yr Urdd ym Margam.
Law yn llaw a sefydliad o'r enw Draig Ffynci ar gyfer pobl ifanc mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gobeithio denu cannoedd o ieuenctid Cymru i'w babell ar Faes yr Eisteddfod.
"Bydd Draig Ffynci yn gweithredu ein prif amcanion sef cynnwys plant a phobl ifanc yn y drefn ddemocrataidd ac ymgynghori 芒 nhw ar faterion sy'n effeithio arnynt.
"Gyda hyn mewn golwg byddwn yn ceisio barn pobl ifanc ac yn codi ymwybyddiaeth ynghylch gwahanol fentrau'r Cynulliad bob dydd o'r wythnos," meddai llefarydd.
Pwnc bob dydd Bydd gwahanol bynciau dan sylw ar wahanol ddiwrnodau: Dydd Llun Iechyd; Mawrth - Yr Amgylchedd; Mercher Addysg; Iau Iaith a Diwylliant; Gwener Diogelwch cymunedol; Sadwrn Cyflogaeth, hyfforddiant a phrifysgol.
"Mae Draig Ffynci'n cael cefnogaeth y Cynulliad er mwyn gwneud yn siwr fod plant a phobl ifanc yn cael llais cryf yn y llywodraeth ar lefel genedlaethol yng Nghymru dyma un o flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad. Mae'n bwysig fod plant a phobl ifanc yn cael mynegi barn bendant gyda golwg ar redeg a threfnu'r digwyddiad," meddai'r llefarydd.
Bydd Draig Ffynci yn defnyddio gemau er mwyn gwneud gwelidyddiaeth yn ddifyr.
Er mwyn chwarae G锚m Basbort bydd yn rhaid ymweld 芒 llawer gwahanol stondinau ar y maes.
Sefydliad sy'n cael ei redeg gan blant a phobl ifainc ydi Draig Ffynci gan roi llais i raid an 25 oed.
|
|